Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Y Gyfraith a Hawliau » Gweithdrefnau'r Llys » Llys Ieuenctid



Llys Ieuenctid

Mae’r llysoedd yma’n rhan o’r llys ynadon a byddan nhw’n delio ag achosion pobl ifanc rhwng 11 a 17 oed.

  • Os wyt ti dan 16 oed, mae’n rhaid i riant, gwarcheidwad neu weithiwr cymdeithasol fod yn y llys gyda thi
  • Bydd yr ynadon, o leiaf dau ohonyn nhw, wedi cael hyfforddiant mewn materion cyfiawnder ieuenctid, a bydd o leiaf un ohonyn nhw'n ddyn ac un yn ddynes
  • Ni fydd y cyhoedd yn cael mynychu llys ieuenctid pan fydd achos gerbron y llys
  • Ni all y papurau newydd ddatgelu enw na manylu ar bwy ydy'r un sy'n cael ei gyhuddo
  • Os bydd y llys yn dy gael yn euog o drosedd a dy fod di dan 18 oed, fe allai wneud cais am adroddiadau cyn dedfrydu
  • Y Tîm Troseddu Ieuenctid fydd yn llunio’r adroddiadau yma, a bydd hefyd yn helpu’r llys i benderfynu ar y ddedfryd a/neu’r gosb fwyaf priodol i ti
  • Cyfreithiwr fydd yn gallu rhoi’r cyngor mwyaf priodol i helpu ti os yw'r achos yn mynd gerbron y llys
  • Gweler adran CLIC ar Gyngor Cyfreithiol i gael mwy o wybodaeth am gyfreithwyr

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50