Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Y Gyfraith a Hawliau » Gweithdrefnau'r Llys » Gwasanaeth Rheithgor



Gwasanaeth Rheithgor

Yn ystod achos llys, gofynnir i 12 aelod o'r cyhoedd wedi'u dethol ar hap i arsyllu'r achos a phenderfynu os yw diffynnydd yn euog neu'n ddieuog. Gelwir y 12 yma yn rheithgor.

Unwaith byddi di'n 18 oed efallai byddi di'n cael dy alw i wasanaeth rheithgor. Nid yw gwasanaeth rheithgor yn ddewisol, ond byddi di yn gallu hawlio costau yn ôl. Ni ddylid ofni bod ar reithgor, gallai fod yn brofiad diddorol iawn. Os wyt ti'n cael dy alw am wasanaeth rheithgor yna byddant yn gyrru llythyr i ti yn esbonio mewn manylder yn union beth fydd yn rhaid gwneud, a bydd yna fanylion cyswllt hefyd rhag ofn fod gen ti unrhyw gwestiynau neu bryderon.

I gael dy alw ar gyfer gwasanaeth reithgor yn llys y Goron mae'n rhaid i ti gyrraedd y meini prawf canlynol:

  • Bod yn 18 neu'n hŷn
  • Bod dy enw di ar y gofrestr etholiadol ac rwyt ti wedi byw yn y DU ers yn 13 oed

Byddi di'n cael dy hysbysu trwy’r post a byddi di fel arfer yn cael rhybudd o 6 wythnos cyn y bydd yr achos yn cychwyn.

Mae’n orfodol i ti wasanaethu ar reithgor pan fyddi di’n cael dy alw i wneud hynny, oni bai fod gen ti reswm da i beidio. Mae yna nifer o resymau y bydd y llys yn eu derbyn i eithrio ti, ac fe fydd yn rhaid i ti egluro pam cyn gynted â phosib.

Am wybodaeth bellach ymwela â theSite.org.

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50