Gwybodaeth » Y Gyfraith a Hawliau » Gwahaniaethu » Cyfle Cyfartal
Yn yr Adran Hon
Cyfle Cyfartal
Yn y blynyddoedd diweddaraf mae yna nifer o ddeddfau seneddol wedi’u pasio i geisio sicrhau bod pawb yn cael eu trin yn gyfartal, gan gynnwys:
- Deddf Cysylltiadau Hiliol
- Deddf Gyflog Gyfartal
- Deddf Gwahaniaethu ar Sail Rhyw
- Deddf Cydraddoldeb Cyflogaeth
Yn 2010 cafodd y Ddeddf Cydraddoldeb ei basio oedd yn cyfuno'r holl ddeddfau cydraddoldeb presennol a deddfau fel y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd, Deddf Gyflog Gyfartal a Deddf Cysylltiadau Hiliol 2000. Mae'r gyfraith yma hefyd yn cynnwys rhywbeth y gelwir yn "nodweddion gwarchodedig" sydd yn ei gwneud yn anghyfreithlon i wahaniaethu yn erbyn unrhyw un sydd yn cysidro eu hun i fod ar y rhestr nodweddion gwarchodedig. Mae nodweddion gwarchodedig yn ymdrin â rhyw, oed, tueddfryd rhywiol, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, a bod yn feichiog neu efo plant.
Mae sawl sefydliad efo polisïau cyfleoedd cyfartal sydd yn arddangos eu hymrwymiad i atal gwahaniaethu ac i ddarparu cyfleoedd cyfartal i bob aelod o'r gymuned gael gwaith.
Mae’n bwysig ystyried dy hawliau o ran cyfle cyfartal wrth ystyried gyrfa neu swydd; erbyn hyn mae llawer o bobl yn cael eu cyflogi mewn swyddi a oedd yn cael eu hystyried yn draddodiadol fel rhai i ddynion neu ferched yn benodol. Gall merched fod yn fecaneg a gall dynion fod yn fydwragedd.
Mae manylion cyfleoedd ar gyfer pob math o yrfaoedd ar gael yn dy swyddfa gyrfa leol ac ar Gyrfa Cymru.