Gwybodaeth » Y Gyfraith a Hawliau » Gwahaniaethu » Hiliaeth
Yn yr Adran Hon
Hiliaeth
Mae hiliaeth, sef math penodol o wahaniaethu, yn erbyn y gyfraith.
Gall ymosodiadau hiliol fod ar lafar neu gallan nhw fod yn gorfforol.
Mae hi hefyd yn erbyn y gyfraith i argraffu erthyglau hiliol mewn cylchgronau neu bapurau newydd.
O gofio hyn, mae’n bwysig iawn rhoi ystyriaeth i’r hyn y byddi di’n ei wneud, ac unrhyw areithiau cyhoeddus ac erthyglau byddi di'n cyhoeddi.
Weithiau bydd pethau’n cael eu dweud neu eu gwneud heb ystyried yr effaith ar bobl eraill, a gall sawl deddf fod yn berthnasol iddyn nhw.
Mae’n hanfodol bod yn ymwybodol o’r gyfraith os wyt ti'n ymwneud â rhai meysydd o fywyd cyhoeddus.
Gall fod yn hynod drallodus a brawychus os byddi di’n dioddef rhagfarn a hiliaeth.
Mae ymosodiadau ar lafar neu gorfforol o natur hiliol yn cael ei ystyried fel ymosodiad yn ôl y gyfraith droseddol.
Os wyt ti'n meddwl dy fod di'n dioddef o hiliaeth mae’n hanfodol dy fod di’n cael help a chefnogaeth yn syth.
Mae yna nifer o sefydliadau sy’n cynnig yr help yma, yn amrywio o’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol i’r heddlu sydd â Llinell Boeth Digwyddiadau Hiliol ac Uned Cefnogi Lleiafrifoedd o bosib.