Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pobl Yn Dy Fywyd » Derbyn Gofal » Pobl sy\n Derbyn Gofal



Pobl sy’n Derbyn Gofal

Gall cyfnod o dderbyn gofal fod yn anodd a dryslyd os byddi'n cael dy wahanu oddi wrth dy deulu. Gall hyn ddigwydd oherwydd sawl rheswm, os bydd problemau gartref a bydd dy riant neu dy deulu agos yn methu gofalu amdanat yn iawn.

Bydd llawer o bobl o’r system gofal ar gael i dy gynorthwyo trwy gydol y broses. Byddant yn dy helpu di a dy deulu yn ystod y cyfnod hwn ac yn sicrhau dy fod yn cael gofal priodol.

Maent hefyd ar gael i dy gynorthwyo a gwrando ar dy bryderon, felly hyd yn oed os bydd hi’n anodd siarad â hwy a rhannu dy deimladau, byddant yn deall dy sefyllfa.

Gweithwyr cymdeithasol

  • Bydd pob plentyn sy’n derbyn gofal yn cael ei weithiwr cymdeithasol ei hun. Cyflogir gweithwyr cymdeithasol gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, un o sefydliadau’r llywodraeth sy'n bodoli i gynorthwyo pobl i fyw bywyd llawn
  • Mae gweithwyr cymdeithasol ar gael i dy gynorthwyo di a dy deulu i gael y gefnogaeth y mae ei angen arnoch, ac fe wnânt weithio i geisio sicrhau y gelli ddychwelyd adref i fyw gyda dy deulu genedigol cyn gynted ag y bo modd
  • Mae dy weithiwr cymdeithasol yn gyfrifol am sicrhau y gofelir am dy addysg, iechyd, diogelwch a lles cyffredinol tra byddi’n derbyn gofal
  • Mae 'cynllun gofal' gan bob plentyn sy'n derbyn gofal, ac mae'n amlinellu'r trefniadau beunyddiol ar gyfer dy ofal. Gelli drafod hyn gyda dy weithiwr cymdeithasol
  • Byddi'n cael cyfarfodydd rheolaidd â dy weithiwr cymdeithasol tra byddi’n derbyn gofal i weld sut fyddi di, yn ogystal â chyfarfodydd adolygu sefydlu i weld a fydd y sefyllfa'n gweithio i ti
  • Bydd hefyd ar gael i ti pan ddaw hi’n bryd i ti adael gofal
  • Mae dy weithiwr cymdeithasol yna i dy amddiffyn di a gofalu amdanat
  • Os wyt yn bryderus am unrhyw beth, mae yno i ti siarad gydag ef/hi

Swyddog Hawliau Plant

  • Mae gan bob plentyn sy’n derbyn gofal hawl i weld ei ffeil personol os yw’n dymuno. Mae’r rhain yn cynnwys gwybodaeth amdanat ti, dy deulu, pam dy fod yn derbyn gofal, dy gynllun gofal, dy addysg a dy iechyd. Cedwir y wybodaeth yn y ffeil yn gyfrinachol gan yr awdurdod lleol
  • Os dan amgylchiadau eithriadol, efallai gellir dy atal rhag gweld dy ffeil. Os bydd hyn yn digwydd, gelli gysylltu â Swyddog Hawliau plant yr awdurdod lleol, a wnaiff ymchwilio i’r rhesymau pam na elli di weld y ffeil

Eiriolwyr

  • Os wyt yn dymuno cwyn am y Gwasanaethau Cymdeithasol neu dy weithiwr cymdeithasol, siarad ag eiriolwr - dyma rywun sydd ddim yn gweithio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae wedi'i hyfforddi fel y gall dy helpu. Fe wnaiff dy gynorthwyo i gael gwrandawiad a dy gefnogi i wneud cwyn
  • Gall nifer o sefydliad eiriolaeth dy gynorthwyo, ac mae llinell gymorth ac eiriolaeth gyfrinachol MEIC ar gael am ddim hefyd. Bydd MEIC yn gallu argymell beth i’w wneud nesaf neu dy gynorthwyo i gysylltu â’r bobl neu’r sefydliadau iawn

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50