Gwybodaeth » Pobl Yn Dy Fywyd » Derbyn Gofal » Perthynas dy rieni
Yn yr Adran Hon
Perthynas â dy rieni
Nid yw mynd i ofal yn golygu na wnei di weld dy rieni eto. Mewn gwirionedd, bydd y rhan fwyaf o bobl ifanc yn dychwelyd i fyw gyda'u rhieni eto wedi cyfnod byr.
Gall bod mewn gofal fod yn gyfnod anodd iawn a byddi'n teimlo llawer o emosiynau gwahanol, a bydd rhai ohonynt wedi'u cyfeirio at dy rieni.
Gallai’r rhain gynnwys:
- Dicter – cefaist dy gymryd oddi wrth dy deulu. Efallai byddi’n credu mai dy rieni ar fai.
- Teimlad o gael dy wrthod – efallai y byddi’n teimlo na wnaeth dy rieni geisio stopio’r gwasanaethau cymdeithasol neu roeddent am i ti adael
- Ymdeimlad o golled – rwyt yn hiraethu am dy deulu, dy gartref a dy hen fywyd. Mae hiraethu’n deimlad naturiol
- Tristwch – efallai byddi'n teimlo dy fod wedi colli popeth cyfarwydd
- Rhyddhad – efallai fod pethau wedi bod yn rhy anodd i ti gartref
- Euogrwydd - efallai byddi'n teimlo dy fod wedi gwneud rhywbeth o’i le. Cofia, nid yw mynd i ofal yn fath o gosb, a gan amlaf, ni fydd yn gysylltiedig o gwbl â thi a dy ymddygiad
Efallai gwnaiff dy weithiwr cymdeithasol ceisio dy annog i gadw cysylltu â dy deulu genedigol, ond dy ddewis di fydd hyn yn llwyr. Os nad wyt yn dymuno'u gweld, mae hynny'n ddealladwy - ti piau'r dewis. Efallai byddi’n dymuno gweld dy frodyr neu dy chwiorydd ond nid dy rieni, ac mae hynny’n dderbyniol hefyd.
- Siarada â dy weithiwr cymdeithasol ynghylch dy deimladau am dy rieni, a thrafoda beth wyt yn dymuno’i wneud o ran eu gweld hwy
- Fodd bynnag, os wyt yn derbyn gofal trwy orchymyn llys (h.y. gorchymyn gofal), bydd y llys yn penderfynu pwy y gelli weld a phwy na elli weld. Efallai bydd hi’n anodd derbyn y penderfyniad yn y lle cyntaf, ond bydd hyn er dy les di gan ystyried pob sefyllfa unigol ac er mwyn dy ddiogelwch
- Rwyt ti’n adnabod dy rieni yn well na neb a thi ddylai benderfynu sut fath o berthynas fydd gennyt â hwy tra byddi'n derbyn gofal. Bydd rhai pobl ifanc yn cadw cysylltiad agos â'u teulu tra byddant yn derbyn gofal ac yn dychwelyd adref pan fydd y teulu'n barod, ond bydd eraill yn dewis peidio cael unrhyw gysylltiad o gwbl â hwy. Bydd rhai yn eu gweld ychydig weithiau mewn blwyddyn yn unig. Nid oes penderfyniad cywir nac anghywir. Ti sydd piau'r dewis, mewn gwirionedd
1 Comment – Postiwch sylw
Rhoddwyd sylw 81 mis yn ôl - 6th January 2010 - 04:42am
Everyone has the right to end a relationship when they want to. If your ex-partner is having a hard time letting go then speak to our specialist youth worker for advice.
It's ok for people to be upset at the end of a break-up but it's never ok to keep texting, coming round your house, following you, threatening you or threatening to hurt themselves.
Male or female, as long as you are aged 11-25, our specialist youth worker can provide with information and advice on remaining safe during a relationship break-up.