Gwybodaeth » Pobl Yn Dy Fywyd » Derbyn Gofal » Maethu
Yn yr Adran Hon
Maethu
Mae gan bob teulu broblemau, ond weithiau, gall fod yn anodd i deulu ymdopi â'i broblemau, a gallet ddioddef oherwydd hynny.
Weithiau, bydd angen symud plant oddi wrth eu teulu i sicrhau eu bod yn ddiogel, yn iach ac yn cael gofal priodol.
Nid dy fai di fydd hyn ac ni fydd yn gosb. Bydd yn rhoi cyfle i dy rieni roi trefn ar bethau a bydd yn cynnig yr amgylchedd gofalgar i ti y mae ei angen arnat.
Weithiau, bydd angen dy symud oddi wrth dy deulu oherwydd rhyw fath o esgeulustod neu gamdriniaeth, ac efallai bydd rhaid i rywun arall ofalu amdanat am ychydig.
- Bydd yr awdurdod lleol yn trefnu i ti fynd i fyw gyda gofalwr maeth tra bydd dy rieni yn cael ychydig o gymorth. Efallai y byddi oddi wrth dy deulu am gyfnod byr neu gallai fod yn drefniant tymor hir. Fodd bynnag, bydd y rhan fwyaf o blant maeth yn dychwelyd at eu teulu rywbryd
- Os na elli ddychwelyd at dy deulu, fe wnaiff gwasanaethau cymdeithasol ganfod teulu maeth tymor hir i ofalu amdanat. Efallai fod hyn yn ymddangos yn rhywbeth arswydus ond mae gwasanaethau cymdeithasol yn ceisio gwneud yr hyn sydd orau i ti yn eu tyb hwy. Bydd yn anodd ar y dechrau, ond ceisio siarad â dy ofalwr newydd ynghylch dy deimladau, ac fe wnaiff pethau wella ymhen amser
- Mae gorchymyn gofal yn golygu fod gwasanaethau cymdeithasol yn gyfrifol amdanat yn lle dy rieni. Bydd gorchymyn gofal yn para nes byddi’n 18 oed, oni bydd rhywun yn gofyn i'r llys ddiddymu'r gorchymyn
- Mae cael dy wahanu oddi wrth dy deulu yn anodd iawn. Byddi’n debygol o deimlo’n ddig, gofidus, wedi dy fradychu gan dy rieni neu’r gwasanaethau cymdeithasol, ar dy ben dy hun ac yn ofnus. Mae teimlo fel hyn yn naturiol, ond paid â chadw dy emosiynau i ti dy hun. Trafoda dy deimladau â’r gwasanaethau cymdeithasol. Maent yn gweithio gyda phobl ifanc bob dydd a byddant yn deall ac yn dymuno helpu
- Dy les di yw blaenoriaeth pawb, er na fydd yn teimlo felly ar brydiau, efallai. Efallai bydd yr hyn sy’n digwydd yn dy ddrysu neu’n gwneud i ti bryderu am dy ddyfodol, felly siarada â rhywun. Fe wnaiff dy gynorthwyo i ddeall
Os na elli siarad â’r gwasanaethau cymdeithasol neu dy ofalwr, mae sefydliad ar gael y gelli eu ffonio â siarad â hwy yn gyfrinachol ac am ddim. Gweler y dolenni isod am rifau ffôn y bobl a all helpu.