Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pobl Yn Dy Fywyd » Derbyn Gofal » Llety Lle Ceir Cymorth



Llety Lle Ceir Cymorth

Mae llety lle ceir cymorth yn un dull o ddarparu pobl ifanc â ffordd annibynnol o fyw o fewn lleoliad teuluol. Maent wedi’u hanelu at bobl ifanc 16 ac 17 oed na all fyw gartref ond nid ydynt yn barod i fyw yn hollol annibynnol na derbyn gofal gan yr awdurdod lleol, mewn cartref plant, er enghraifft.

Gelli aros mewn llety lle ceir cymorth cyn hired ag y byddi di a’r gofalwr yn cytuno i hynny a dy fod yn cyflawni cytundeb dy leoliad. Os na all pobl ddychwelyd adref, byddant fel arfer yn aros mewn llety lle ceir cymorth nes byddant yn 18 oed ac wedi gorffen yn yr ysgol/coleg.

  • Bwriad llety lle ceir cymorth yw rhoi blas i ti o fod yn annibynnol tra bydd cymorth oedolyn a all dy gynorthwyo mewn unrhyw ffordd yn dal ar gael i ti
  • Ni fydd y gofalwr y byddi’n byw gydag ef neu hi yn gyfrifol amdanat fel rhiant neu warcheidwad
  • Cei dy drin fel oedolyn annibynnol yn y cartref
  • Byddi’n rhentu ystafell, prynu a choginio dy fwyd dy hun, gofalu am dy arian dy hun a gwneud dy waith tŷ dy hun
  • Fodd bynnag, bydd rhaid i ti gadw at reolau a byddi’n llofnodi cytundeb ysgrifenedig a fydd yn nodi dy fod yn cytuno i gadw atynt a'r canlyniadau os byddi'n torri'r rheolau hyn a allai arwain at ofyn i ti adael
  • Fe wnaiff dy weithiwr cymdeithasol ymweld â thi yn rheolaidd yn ystod dy arhosiad, a gelli siarad yn ag ef neu hi yn agored am unrhyw bryderon
  • Nod llety lle ceir cymorth yw datblygu dy hyder a dy annibyniaeth, felly defnyddia’r cyfle yn ddoeth

Os wyt yn bryderus am fyw mewn llety lle ceir cymorth, siarada â dy weithiwr cymdeithasol. Gelli weld y llety a chwrdd â dy ofalwr cyn i ti wneud unrhyw benderfyniad pendant.

Ar ddiwedd dy arhosiad mewn llety lle ceir cymorth, gall gwasanaethau cymdeithasol dy gynorthwyo i ganfod llety annibynnol ar dy ben dy hun.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50