Gwybodaeth » Pobl Yn Dy Fywyd » Derbyn Gofal » Mabwysiadu
Yn yr Adran Hon
Mabwysiadu
Mabwysiadu yw cael dy wneud yn rhan gyfreithiol o deulu newydd ac ni fyddi bellach yn perthyn i dy deulu genedigol.
Caiff rhai pobl eu mabwysiadu ar adeg eu genedigaeth ac eraill yn ddiweddarach, os na all eu rhieni barhau i ofalu amdanynt neu os cânt eu mabwysiadu gan lysfam neu lystad.
Mabwysiadu ar adeg genedigaeth
Bydd rhai rhieni yn disgwyl nes bydd eu plentyn yn hŷn cyn dweud wrth ei fod wedi’i fabwysiadu, a bydd eraill yn dweud wrth eu plentyn pan fydd yn ifanc. Penderfyniad y rhieni yw dweud neu beidio dweud wrth y plentyn ei fod wedi'i fabwysiadu.
- Gall canfod dy fod wedi dy fabwysiadu fod yn amser anodd a dryslyd, felly cofia gael cymaint ag y gelli o gefnogaeth gan dy deulu a dy ffrindiau
- Mae teimlo’n ddig a gofidus yn naturiol, ond ceisia drafod dy deimladau cymaint ag y gelli gyda dy rieni. Maent ar gael i dy gefnogi ac maent yn dymuno gwneud pethau’n haws i ti. Gofynna unrhyw gwestiwn y dymuni ofyn
- Cofia, os ydych yn berthnasau gwaed neu beidio, dy rieni mabwysiedig yw dy rieni, a hwy yw dy deulu
- Bydd rhai pobl yn dymuno canfod eu rhieni genedigaeth. Efallai bydd hyn yn peri gofid i dy rieni mabwysiedig oherwydd hwy yw’r rhai sydd yn dy garu ac wedi dy fagu di. Siarada â hwy a helpa hwy i ddeall pam dy fod yn dymuno cwrdd â dy rieni genedigol
- Cofia, mae’n hawdd adeiladu darlun meddyliol o bobl ac efallai na fydd dy rieni genedigol yn cyflawni dy ddisgwyliadau, felly paid â gwneud unrhyw benderfyniadau heb ystyried yn ofalus a siarad â rhywun fel dy rieni mabwysiedig neu ffrind
- Di rieni mabwysiedig yw’r rhai sydd wedi dy fagu, dy fwydo ac wedi dy gadw’n ddiogel, felly dangosa iddynt y parch y maent yn ei haeddu a chofia rannu dy feddyliau â hwy. Bydd hwn yn amser caled iddynt hwy hefyd, ac efallai byddant yn pryderu am dy golli di
- Rhaid i ti fod yn 18 oed neu'n hŷn i olrhain dy rieni genedigol. Yna, gelli weld dy dystysgrif geni a chael gwybodaeth ynghylch y llys neu'r asiantaeth oedd yn gyfrifol am y mabwysiadu. Dyma’r ffordd orau o ganfod dy rieni genedigol, ond cofio, nid oes unrhyw sicrwydd y gelli eu canfod, a dylet fod baratoi dy hun am siomedigaeth oherwydd ni ellir olrhain pawb
Cael dy fabwysiadu
Mae penderfynu a wyt yn dymuno cael dy fabwysiadu neu beidio yn benderfyniad enfawr na ddylai neb roi pwysau arnat i'w wneud.
- Byddi’n rhan gyfreithlon o deulu newydd, nid dy deulu genedigol, felly rhaid i ti fod yn fodlon â dy benderfyniad. Mae mabwysiadu yn barhaol, ond nid yw’n golygu o reidrwydd na elli weld dy deulu genedigol eto. Rhaid i ti fynegi'n glir yn ystod yr achos llys pa un ai a wyt yn dymuno gweld dy deulu genedigol eto neu beidio
- Os wyt yn teimlo dy fod wedi dy orlethu, rho gynnig ar siarad â rhywun y tu allan i'r sefyllfa megis ffrind, rhiant ffrind, cymydog, y gwasanaethau cymdeithasol neu athro/athrawes yn yr ysgol. Fe wnânt geisio dy gefnogi wrth i ti wneud dy benderfyniad, ond ni allant wneud y penderfyniad ar dy ran. Fel arall, ceisia ffonio un o’r sefydliadau amrywiol sydd wedi ymroddi i helpu pobl ifanc, megis MEIC, a wnaiff wrando a chynnig cyngor cyfrinachol
- Cofia, nid wnaiff mabwysiadu newid pwy wyt ti. Yr unig beth a wnaiff newid yw’r sawl sy’n gyfrifol yn gyfreithiol am ofalu amdanat
Os wyt yn ystyried rhoi dy fabi i’w fabwysiadu, siarada â rhywun rwyt yn ymddiried ynddo ac a wnaiff dy gefnogi trwy gynnig cyngor i ti cyn gwneud unrhyw benderfyniadau. Mae gwybodaeth a wnaiff dy gynorthwyo i wneud y penderfyniad hwn ar gael yn: http://www.baaf.org.uk/info/pregnant