Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pobl Yn Dy Fywyd » Bod Yn Rhan O Deulu » Teuluoedd Estynedig



Teuluoedd Estynedig

Mae dy deulu estynedig yn cynnwys mwy na rhieni a phlant. Mae aelodau'r teulu estynedig yn cynnwys modrybedd, ewythrod, cefndryd a chyfnitherod, neiniau a theidiau a phlant maeth.

Gall teulu estynedig fyw gyda’i gilydd oherwydd amrywiaeth o resymau. Er enghraifft, efallai byddant yn cynorthwyo i ofalu am blant neu gynorthwyo perthynas sy’n wael, neu efallai bydd hynny’n gyfleus yn ariannol.

  • Caiff rhai plant eu magu gan eu neiniau a’u teidiau pan fydd eu rheini’n methu gofalu amdanynt. Ceisia ddeall fod dy nain a dy daid yn perthyn i genhedlaeth llawer hŷn, ac efallai bydd ganddynt safbwyntiau gwahanol i dy rieni ynghylch nifer o bethau
  • Weithiau, mae bod yn rhan o deulu estynedig yn golygu cael llai o sylw gan eich perthnasau, oherwydd mae rhagor ohonoch. Os wet yn teimlo dy fod wedi dy esgeuluso neu’n unig, cofia ddweud wrthynt sut wyt yn teimlo. Efallai nad ydynt yn sylweddoli dy fod yn teimlo felly
  • Yr hyn sy’n wych am fod yn rhan o deulu estynedig yw fod rhagor o bobl ar gael i dy gynorthwyo a siarad â ti, felly cofia wneud y gorau o’r sefyll! Nid yw rhai pobl mor ffodus, ac ni fyddant fyth yn cael cyfle i gwrdd â’u perthnasau

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50