Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pobl Yn Dy Fywyd » Bod Yn Rhan O Deulu » Llys-rieni



Llys-Rieni

Gall byw gyda llys-riant neu lysdeulu fod yn anodd yn lle cyntaf, ac efallai bydd angen ychydig o amser i ddod yn gyfarwydd â hynny. Mae’n anodd iawn dychmygu sut fydd dy fywyd teuluol newydd, a bydd angen amser i ddod i'w hadnabod a’u hoffi.

Gall gweld un o dy rieni gyda phartner newydd fod yn brofiad anodd hefyd, ond cofia na fydd dy lys-riant yn ceisio cymryd lle dy fam neu dy dad go iawn.

  • Nid yw ceisio cyd-dynnu’n dda â dy lys-riant yn golygu dy fod yn anffyddlon i dy riant go iawn. Mae’n arwydd dy fod yn ymddwyn fel oedolyn ac yn ymgyfarwyddo â sefyllfa newydd mewn ffordd aeddfed ac iach
  • Mae'n hollol naturiol i ti deimlo'n eiddigeddus, blin, dryslyd, gofidus a phryderus, neu gymysgedd o'r emosiynau hyn. Ceisia siarad â dy riant neu aelod arall o dy deulu ynghylch dy deimladau, a cheisiwch ganfod dulliau o ddatrys y teimladau hyn gyda’ch gilydd
  • Efallai na fyddi’n hoffi dy lys-riant neu dy lysdeulu newydd yn y lle cyntaf. Mae’n arferol i deimlo dan fygythiad, ond rho gyfle i bawb ymgyfarwyddo. Cofia, ni fydd pethau’n hawdd i dy lys-riant na dy lysdeulu chwaith
  • Ceisia gadw meddwl agored ynghylch dy riant neu dy deulu newydd, a chofia ganiatáu amser i ddod i'w hadnabod yn iawn. Mae'n siŵr fod dy fam neu dy dad yn ceisio gwneud i'w pherthynas/berthynas â dy riant newydd weithio, ac mae'n debyg fod ganddo/ganddi nifer o rinweddau
  • Er na fydd yn teimlo felly ar brydiau, gall llys-riant neu lysdeulu fod yn beth da. Wedi’r cyfan, bydd rhagor o bobl yn malio amdanat, yn cynnig cariad a chymorth i ti, ac yn dy gyflwyno i bethau newydd ac yn dy addysgu amdanynt

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50