Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pobl Yn Dy Fywyd » Bod Yn Rhan O Deulu » Brodyr a Chwiorydd



Brodyr a Chwiorydd

Bydd llawer o frodyr a chwiorydd yn methu cyd-dynnu pan fyddant yn tyfu i fyny, ac mae ffraeo yn rhan naturiol o dy berthynas â hwy.

Weithiau, bydd rhaid i ti rannu ystafell â hwy yn ogystal â byw yn yr un tŷ, sy'n golygu na fydd gennyt le i ti dy hun. Gall gorfod rhannu pethau â hwy neu orfod eu goddef yn tarfu arnat fod yn anodd iawn, ond mae ffyrdd o wella'r sefyllfa.

  • Meddylia pam fyddwch yn ffraeo (bydda’n onest) – oherwydd dy fod yn dymuno cael lle i ti dy hun? A fyddi’n cael llai o sylw na hwy? A wyt yn eiddigeddus?
  • Os mai dy broblem di yw hi, rhaid i ti ei datrys. Nid yw gweld bai ar dy frawd neu dy chwaer o les i unrhyw un
  • Pan fyddi’n ddigon pwyllog, ceisia siarad â dy frawd neu dy chwaer am dy deimladau a gofyn iddynt hwythau rannu eu teimladau â thithau hefyd. Peidiwch â gweiddi ar eich gilydd, ond ceisiwch drafod yn bwyllog, gan ystyried safbwyntiau a beirniadaethau eich gilydd yn aeddfed
  • Gall dysgu beth sy'n achosi ffraeon hefyd eu rhwystro yn y lle cyntaf, felly ceisiwch drafod hynny â'ch gilydd a meddyliwch am ffyrdd o atal ffraeon
  • Y tro nesaf byddi’n teimlo’n flin ac yn synhwyro fod ffrae ar gychwyn, pwylla ac anadla’n ddwfn, a phaid â throi tu min. Dos allan o’r ystafell, ymlacia a wyneba’r mater yn bwyllog pan fyddi'n teimlo'n barod i wneud hynny
  • Mae gan frodyr a chwiorydd rolau gwahanol o fewn teulu. Er enghraifft, efallai bydd gan yr hynaf fwy o gyfrifoldebau, ac efallai gofynnir iddo/iddi osod esiampl i frodyr neu chwiorydd iau. Efallai caiff y plentyn ieuengaf fwy o ryddid, ond weithiau gall deimlo bod eraill yn oramddiffynnol ohono ac yn ei drin fel babi. Sut bynnag byddi’n teimlo, siarada â dy rieni
  • Os wyt yn credu fod dy frawd neu dy chwaer yn cael mwy o sylw na ti, mae angen i ti drafod hynny â dy rieni neu dy ofalwyr. Dywed wrthynt sut wyt yn teimlo a pham ac edrycha am ddulliau o wella'r sefyllfa, feler enghraifft, trefnu trip gyda dy rieni neu dy ofalwyr
  • Os wyt ti’n credu fod dy frawd neu dy chwaer yn gallu gwneud rhywbeth yn well na ti, cofia am dy ddoniau di. Er enghraifft, efallai eu bod yn well mabolgampwyr na ti, ond efallai byddi di'n cael marciau uwch yn yr ysgol. Nid oes neb yn berffaith, ac mae gennym oll ddiddordebau a galluoedd gwahanol, felly paid â chymharu dy hun â dy frawd neu dy chwaer. Nid ti ydynt hwy.
  • Nid oes rhaid i ti fod yn ffrind gorau dy frawd neu dy chwaer, ond mae parchu eich gilydd yn bwysig. Os byddi’n parchu dy siblingiaid, fe wnânt hwythau ddysgu dangos yr un parch atat ti
  • Yn aml iawn, bydd brodyr a chwiorydd sy’n ffraeo pan fyddant yn iau yn agos iawn pan fyddant yn oedolion. Cofia, bydd dy frawd neu dy chwaer bob amser ar gael i siarad â thi a dy gefnogi

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50