Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pobl Yn Dy Fywyd » Bod Yn Rhan O Deulu » Gofalwyr Ifanc



Gofalwyr Ifanc

Os na all rhiant neu aelod agos o’r teulu ofalu amdanynt eu hunain, weithiau bydd rhaid i aelodau ieuengaf y teulu ofalu amdanynt.

Mae degau o filoedd o ofalwyr ifanc yn y Deyrnas Unedig, yn gofalu am aelod o’u teulu ac yn ceisio canolbwyntio ar eu gwaith ysgol neu goleg a mwynhau bywyd cymdeithasol ar yr un pryd. Mae’n gyfrifoldeb enfawr, a gall ceisio rheoli hyn yn llwyddiannus achosi cryn straen - pryder am iechyd eu rhiant neu aelod o’u teulu, yn ogystal â chynorthwyo i ofalu amdanynt a chynorthwyo i goginio, glanhau a rhedeg y cartref.

Bydd rhai yn canfod na allant ymdopi â phopeth yn dda, a byddant yn esgeuluso eu gwaith ysgol neu eu bywyd cymdeithasol i ofalu am aelod o’r teulu y mae arno angen eu cymorth.

  • Gall bod yn ofalwr ifanc roi straen ar eich iechyd corfforol ac emosiynol, ac yn aml iawn, gall fod yn swydd amser llawn i berson ifanc
  • Efallai y gwnei brofi cysgu afreolaidd, straen, tlodi neu arunigedd cymdeithasol. Efallai gwnei hefyd deimlo'n flin, gofidus a gwan, a bydd pethau'n gwneud i ti deimlo'n isel
  • Gall straen emosiynol gofalu am rywun effeithio arnat yn y tymor hir, felly paid â chadw dy deimladau a dy feddyliau i ti dy hun
  • Yn aml iawn, ni fydd gofalwyr ifanc a’u rhieni yn siarad am hyd a lled gofalu oherwydd pryder y gallant gael eu gwahanu neu deimladau o euogrwydd neu falchder, ond nid yw gofyn am gymorth pan fydd angen hynny arnat yn destun cywilydd
  • Weithiau, dy fywyd cymdeithasol fydd y peth cyntaf sy’n dioddef, a gall hynny wneud i ti deimlo'n arunig, yn methu treulio amser gyda dy ffrindiau na'u gweld yn rheolaidd. Mae rhai grwpiau o ofalwyr ifanc sy'n cwrdd â'i gilydd trwy sefydliadau a fforymau ar-lein i gymdeithasu a chefnogi'r naill a'r llall. Gall siarad â phobl ifanc eraill sydd yn yr un sefyllfa gynorthwyo
  • Os yw dy waith ysgol neu goleg yn dioddef, siarada ag athro neu diwtor ynghylch dy sefyllfa. Weithia, gallant gynnig cefnogaeth a gwneud trefniadau i sicrhau hyblygrwydd fel gelli gydbwyso dy waith ysgol neu goleg â dy gyfrifoldebau gofalu
  • Os wyt yn ofalwr ifanc ac mae angen cymorth neu gyngor arnat, mae pobl ar gael i siarad â hwy a chynnig help i ti. Nid wyt ar dy ben dy hun ac nid oes rhaid i ti ymdopi â phethau dy hun. Mae gweithwyr proffesiynol ar gael a wnaiff wrando arnat yn gyfrinachol, a chynnig cyngor i ti ynghylch dulliau o leihau'r straen rwyt ti'n ei brofi

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50