Gwybodaeth » Pobl Yn Dy Fywyd » Bod Yn Rhan O Deulu » Mamau, Tadau a Gofalwyr
Yn yr Adran Hon
Mamau, Tadau a Gofalwyr
Mae mamau, tadau a gofalwyr neu warcheidwaid yn rhan bwysig iawn o'n bywyd, ond efallai na fyddi bob amser yn gweld lygad yn llygad â hwy.
Mae'n hollol arferol i ffraeo'n achlysurol â dy rieni neu dy ofalwyr wrth i ti dyfu i fyny, boed hynny ynghylch cariadon, mynd allan, arian, ysgol neu goleg.
Efallai fod ganddynt syniadau sy’n wahanol i dy rai di, a gall ffrae ddigwydd os wyt yn teimlo'n gryf am rywbeth a dy rieni neu dy ofalwyr yn anghydweld. Pan fyddi'n sylwi fod ffrae ar fin cychwyn, ceisia ddeall pethau o’u safbwynt hwy a phaid â cholli dy ben.
- Mae dulliau eraill o ddatrys problemau heb ffraeo. Bydd trafodaeth bwyllog a rhesymol yn llawer mwy tebygol o sicrhau canlyniadau gwell i ti
- Cofia, roedd dy rieni neu dy ofalwyr yr un oed â thi ar un adeg, felly maent yn gwybod sut brofiad ydy hynny. Ceisia ystyried eu barn a’u hawgrymiadau. Yn aml iawn, byddant yn bryderus am dy les a dy ddiogelwch
- Mae cyfathrebu yn allweddol i sicrhau perthynas hapus. Gall cuddio dy deimladau wneud i ti deimlo'n rhwystredig ac anhapus a gall arwain at ragor o ffraeo
- Mae siarad â dy rieni neu ofalwyr yn bwysig iawn. Os wyt yn bryderus ynghylch unrhyw beth, bydda’n onest a siarada â hwy’n bwyllog a heb wylltio. Byddi'n synnu o weld cymaint y gall hynny dy gynorthwyo. Ceisia ddewis amser pan fyddi di a dy rieni yn ddigon pwyllog i siarad am y pethau sy'n dy bryderu di
Gall rhai rhieni neu ofalwyr fod yn oramddiffynol neu’n ymwthgar , neu efallai bydd yn ymddangos nad ydynt yn deall dy safbwyntiau. Os byddi’n credu fod dy riant neu dy ofalwr yn dy drin yn annheg, ceisia drafod â hwy ynghylch y materion sy’n effeithio arnat, a cheisiwch gyfaddawdu. Ni wnaiff gweiddi ddatrys unrhyw beth, ond os gwnei siarad yn bwyllog ac eglur â hwy, fe wnaiff hynny lwyddo.