Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pobl Yn Dy Fywyd » Bod mewn Perthynas » Cariadon



Cariadon

Mae cariad yn rhywun yr wyt mewn perthynas ramantus ag ef neu hi ac mae pob perthynas yn wahanol. Gall perthynas ramantus olygu gwahanol bethau i wahanol bobl - mae pob perthynas yn wahanol.

Gallai perthynas ramantus olygu treulio amser gyda'ch gilydd, mynd i lefydd gyda’ch gilydd, bod yn gariadus at eich gilydd a siarad gyda’ch gilydd. Os ydych yn mwynhau treulio amser gyda'ch gilydd, efallai y gwnaiff dy deimladau ato/ati gryfhau wrth i chi ddod yn agosach.

Bod â chariad

  • Paid â phoeni os yw’n ymddangos fod sboner gan bob un o dy ffrindiau. Mae dy berthnasau yn bersonol i ti, felly paid â theimlo dan bwysau i gychwyn perthynas â rhywun os nad wyt yn dymuno hynny neu os nad wyt yn teimlo'n barod
  • Ar ddechrau’r berthynas, mae teimlo’n nerfus ynghylch bod yn agos at rywun newydd yn deimlad hollol arferol. Ymlacia a chanolbwyntia ar beth sy'n dy wneud yn hapus ynghylch y person hwnnw
  • Paid â phoeni gormod am farn pobl eraill amdanat ti neu dy berthynas
  • Nid yw bod â chariad yn golygu fod rhaid i ti gael cyfathrach rywiol. Mae pob perthynas yn wahanol, felly paid â theimlo fod perthynas rywiol yn angenrheidiol os nad wyt yn teimlo'n fodlon neu'n barod. Mae bod eisiau cyfathrach rywiol yn arferol, ond efallai bydd bechgyn yn dymuno cael cyfathrach rywiol cyn bydd eu cariadon yn dymuno hynny, felly mae’n bwysig parchu eu teimladau hefyd. Gall rhyw fod yn brofiad gwahanol iawn i ddynion nag yw i ferched, felly bydda’n oddefgar a phaid â bod yn rhy ymwthgar. Meddylia sut buaset yn teimlo pe bai dy berthynas yn un rhywiol. A fuasai'n newid? Mae’r rhan fwyaf o bobl yn dymuno gallu ymddiried yn llwyr yn y person arall sy’n rhan o’r berthynas cyn penderfynu cael cyfathrach rywiol
  • Allwedd perthynas hapus yw cyfathrebu da – daliwch ati i drafod eich teimladau â'ch gilydd
  • Cofia: nid oes rhaid i ti ruthro i wneud unrhyw beth os wyt yn ansicr. Mae dy berthynas yn bersonol i ti - mae gennyt ddewis

Bechgyn a genethod fel ffrindiau

  • Mae cael ffrindiau o’r rhyw arall yn arferol. Os wyt yn ffrind i fachgen neu ferch, nid yw hynny’n golygu eich bod yn gariadon
  • Gweler ‘Canlyn’ i gael rhagor o wybodaeth ynghylch cyfeillgarwch sy’n datblygu yn berthynas
  • Mae bechgyn a genethod yn wahanol

    • Bydd genethod yn aeddfedu yn gyflymach na bechgyn, felly efallai bydd ganddynt syniadau gwahanol ynghylch sut ddylai eu cariad fod
    • Allwedd perthynas hapus yw cyfathrebu da – felly daliwch ati i drafod eich teimladau â'ch gilydd

    Dy ffrindiau

    • Pan fydd gennyt gariad, mae dymuno treulio llawer o amser gyda'ch gilydd yn naturiol, ond mae’n bwysig peidio anghofio am dy ffrindiau. Wedi'r cwbl, maent wedi bod ar gael i ti yn hirach na dy gariad, ac os gwnewch wahanu, byddant yn dal ar gael i ti
    • Efallai y gallech gymdeithasu gyda’ch gilydd fel grŵp, ond os byddi’n treulio llawer o amser dy hun gyda dy gariad, cofia beidio colli cysylltiad â dy ffrindiau a phaid â rhoi'r gorau i wneud y pethau yr oeddet yn eu mwynhau cyn i chi gwrdd

    Dy rieni / gwarcheidwaid

    Efallai bydd dy rieni neu dy warcheidwaid yn teimlo'n wahanol ynghylch dy berthynas. Efallai na fyddant yn fodlon i ti gael cariad oherwydd nifer o resymau. Mae rhai o’r rhesymau mwyaf cyffredin yn cynnwys:

    • Rwyt ti’n ‘rhy ifanc’
    • Mae ef neu hi yn ‘rhy hen’
    • Nid ydynt yn fodlon dy fod yn treulio llawer o amser gyda rhywun os nad ydynt yn ei (h)adnabod
    • Nid ydynt yn ei hoffi ef neu hi, neu maent yn meddwl y gelli ddewis rhywun gwell
    • Efallai ei fod yn ymddangos fel eu bod yn busnesa, ond dy les di yw eu hystyriaeth bennaf. Gall siarad â hwy gynorthwyo os wyt yn hoff iawn o'r person, felly pan fydd hynny'n briodol, trafodwch y sefyllfa'n bwyllog
    • Efallai gall rhoi cyfle i dy rieni neu dy warcheidwaid ddod i adnabod dy gariad gynorthwyo pethau. Er enghraifft, beth am awgrymu eu gwahodd i ddod draw am bryd o fwyd fel y gallwch dreulio amser gyda'ch gilydd yn gwneud rhywbeth?

    3 CommentsPostiwch sylw

    Rhoddwyd sylw 24 mis yn ôl - 26th September 2014 - 09:25am

    all true stuff

    Rhoddwyd sylw 24 mis yn ôl - 26th September 2014 - 09:28am

    this is all true stuff to be honnest with you i fine most of it true but then again ishouldnt find it alll true as im only 13 but have been with someone for 9 months

    Rhoddwyd sylw 24 mis yn ôl - 26th September 2014 - 09:28am

    this is very true & helpful information! i was just scrolling through the sigt and this article caught my eye so i took a look and i thought it was an excellent article indeed!

    Rhywbeth i ddweud?

    Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

    Mewngofnodi neu Cofrestru.

    Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50