Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pobl Yn Dy Fywyd » Bod mewn Perthynas » Canlyn



Canlyn

Mae canlyn rhywun yn golygu bod mewn perthynas ramantus ag ef neu hi. Mae pob perthynas yn wahanol, felly ceisia beidio cymharu dy berthynas â pherthnasau eraill neu adael i rywun arall benderfynu pwy ddylet ganlyn.

Dylai’r berthynas iawn wneud i ti deimlo'n dda amdanat dy hun. Dyled deimlo'n hamddenol, hyderus a hapus gydag ef neu hi.

Ni oes brys i fod mewn perthynas â rhywun. Arhosa nes byddi'n teimlo’n barod ac yn ddigon aeddfed i fod mewn perthynas cyn mynd i berthynas â rhywun.

Cyfarfod

Gall gofyn i rywun fynd allan gyda thi fod yn brofiad anodd iawn. Os wyt eisoes yn nabod y person arall, gallai hynny dy gynorthwyo i benderfynu beth yw'r ffordd orau o ofyn. Mae pawb yn wahanol, ac nid oes ffordd gywir nac anghywir o ofyn i rywun fynd allan gyda thi.

Troi cyfeillgarwch yn rhywbeth mwy

  • Gall cyfeillgarwch da fod yn sylfaen gref i berthynas llwyddiannus, oherwydd byddi eisoes yn nabod y person arall yn dda. Weithiau bydd cyfeillgarwch yn datblygu’n berthynas, ond nid bob tro. Mae’n bwysig i’r ddau ohonoch wybod eich bod yn dymuno bod yn fwy na ffrindiau
  • Efallai bydd bachgen neu eneth weithiau'n cychwyn cyfeillgarwch â thi, oherwydd mae'n dy ffansio ac yn gobeithio y gwnaiff ddatblygu’n rhywbeth mwy. Os wyt yn gwybod y buaset yn hoffi bod yn fwy na ffrindiau gyda rhywun o’r dechrau, yna efallai bydd yn well gofyn iddo/iddi a yw'n dy hoffi di hefyd, oherwydd gall pethau ddod yn gymhleth a dryslyd i'r ddau ohonoch
  • Os bydd dy deimladau am ffrind yn datblygu a byddi'n dymuno cael perthynas gydag ef neu hi, yna efallai byddi'n camddehongli ei ffordd o ymddwyn neu siarad gyda thi. Efallai byddi’n dymuno mynd allan gydag ef ni hi, ond efallai bydd ef neu hi yn dymuno parhau’n ffrindiau, felly bydd yn dy ystyried yn yr un modd â’i ffrindiau benywaidd y bydd yn ymddiried ynddynt neu’n dy ystyried yn ‘un o’r bechgyn’
  • Efallai bydd arwyddion a wnaiff awgrymu fod dy ffrind yn dymuno cael perthynas gyda thi, fel fflyrtan gyda thi neu fod yn eiddigeddus ohonot pan fyddi gyda bechgyn neu ferched eraill, ond gofyn yw’r unig ffordd bendant o wybod
  • Gall gofyn neu ddweud wrtho/wrthi sut wyt yn teimlo fod yn anodd iawn, yn enwedig os ydych yn ffrindiau agos. Gelli achosi teimladau lletchwith i’r ddau ohonoch a chael dy frifo os nad yw ef neu hi yn teimlo'r un fath, a gallet golli dy gyfeillgarwch
  • Ystyria bethau’n ofalus cyn ceisio troi cyfeillgarwch yn berthynas. Gall fod yn syniad da i holi rhai o dy ffrindiau eraill i ganfod beth yw eu barn

Cwrdd â phobl newydd

  • Gelli gwrdd â phobl newydd yn yr ysgol, y coleg, mewn clybiau ar ôl ysgol neu trwy gymdeithasu
  • Gallai'r Rhyngrwyd fod yn ffordd dda o gwrdd â phobl newydd, yn enwedig os wyt yn swil neu'n byw mewn ardal ddiarffordd. Ond mae peryglon penodol yn gysylltiedig â chwrdd â phobl ar-lein, felly bydda'n ofalus. Gweler yr adran: Perthnasau Ar-lein

Pan fyddwch gyda’ch gilydd

  • Mae perthnasau’n seiliedig at barch at eich gilydd, gonestrwydd ac ymddiriedaeth
  • Mae bob mewn perthynas â rhywun yn golygu dy fod wedi ymroddi iddo neu iddi, ac fe wnaiff bod yn ffyddlon ddatblygu’r ymddiriedaeth rhyngoch
  • Mae cusanu a bod yn gariadus yn rhan naturiol o unrhyw berthynas, ond cofia y gall bod yn rhy gariadus yn gyhoeddus wneud i bobl eraill sydd o dy gwmpas deimlo’n anghyfforddus
  • Eich dewis chi yw sut byddwch yn treulio’ch amser gyda'ch gilydd - nid oes rhaid i chi deimlo fod rhaid i chi wneud yr un peth â chyplau eraill. Mae eich perthynas yn unigryw i chi, felly mwynhewch beth bynnag mae’r ddau ohonoch yn mwynhau ei wneud
  • Mae angen amser i adnabod rhywun yn iawn. Mwynhewch yr amser a dreuliwch gyda’ch gilydd a pheidiwch â rhuthro pethau

Rhyw

  • Nid oes rhaid i ryw fod yn rhan o bob perthynas. Mae llawer o gyplau yn mwynhau bod gyda’i gilydd. Fodd bynnag, bydd rhyw yn fwy pleserus mwy perthynas cyn belled ag y bydd yn ddiogel
  • Paid â theimlo dan bwysau i gael cyfathrach rywiol a dy bartner os wyt yn teimlo'n anfodlon. Os yw dy berthynas yn arbennig ac yn un wnaiff bara, fe wnaiff dy bartner aros nes byddi’n barod

Ffraeon

  • Gall ffraeo gyda dy bartner fod yn brofiad gofidus a rhwystredig, ond mae anghydweld yn rhan arferol ac iach o unrhyw berthynas. Mae’n caniatáu i’r ddau ohonoch fynegi’ch teimladau i’ch gilydd, ac mae’n cadw’r sianelau cyfathrebu ar agor ac yn caniatáu i chi fynegi unrhyw broblemau, yn hytrach na'u cadw i chi’ch hyn
  • Fodd bynnag, gellir osgoi ffraeon ar brydiau trwy neilltuo amser i'ch gilydd a gwneud y pethau rydych yn eu mwynhau gyda’ch gilydd. Rhanna dy amser yn ofalus, a neilltua amser i ti dy hun, dy ffrindiau a dy bartner
  • Os byddi’n ffraeo’n amlach na’r hyn a ddylet ac mae’n anodd siarad â dy barner, siarad â rhywun arall sy'n agos atat. Efallai gwnaiff gynorthwyo i osod problemau yn eu cyd-destun a chanfod atebion newydd
  • Cofia – mae cyfathrebu da yn hanfodol i unrhyw berthynas. Mae’n bwysig rhannu eich teimladau er mwyn deall eich gilydd yn well

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50