Gwybodaeth » Pobl Yn Dy Fywyd » Bod mewn Perthynas » Rhyw
Rhyw
Mae rhyw yn brofiad agos a phreifat rhwng dau unigolyn ac ni ddylid rhuthro i'w wneud. Mae cael cyfathrach rywiol am y tro cyntaf yn benderfyniad pwysig ac yn un na elli ei ddadwneud, felly sicrha dy fod yn barod gyntaf.
Ni ddylai neb roi pwysau arnat i gael cyfathrach rywiol. Mae gan bawb hawl i ddweud na ar unrhyw adeg yn ystod cyfathrach rywiol neu weithgarwch rhywiol arall. Ti piau’r penderfyniad.
- Efallai ei fod yn ymddangos fod dy holl ffrindiau yn cael cyfathrach rywiol, ond mewn gwirionedd, dim ond 25% o enethod a 30% o fechgyn dan 16 sydd wedi cael cyfathrach rywiol, felly mae bod yn wyryf dan 16 oed yn beth cyffredin iawn. Nid cystadleuaeth yw rhyw, mae’n bersonol i chi
- 16 yw oed cydsynio cyfathrach rywiol heterorywiol a chyfunrywiol yng Nghymru a Lloegr. Mae hynny'n golygu fod cyfathrach rywiol dreiddiol, cyfathrach rywiol geneuol neu fastyrbio’ch gilydd yn anghyfreithlon os ydych dan 16 oed
- Bydd y rhan fwyaf o bobl ifanc yn aros nes byddant mewn perthynas sefydlog neu gyda rhywun maent yn ymddiried ynddynt cyn cael cyfathrach rywiol, oherwydd bydd fel arfer yn gwneud y profiad yn un mwy pleserus
- Gall cyfathrach rywiol olygu gwahanol bethau i wahanol bobl, felly cofia sicrhau fod yr unigolyn rwyt yn dewis cael cyfathrach rywiol gydag ef neu hi yn teimlo'r un fath a thi
- Mae cyfathrebu yn allweddol er mwyn sicrhau bywyd rhywiol da ac iach
Cael cyfathrach rywiol
Mae cael cyfathrach rywiol yn golygu cymryd cyfrifoldeb am dy les a dy iechyd di a dy bartner.
Gall holi ynghylch dulliau atal cenhedlu wneud i ti deimlo’n chwithig, ac efallai dy fod eisoes yn teimlo’n agored i niwed ac yn ddiamddiffyn ynghylch cael cyfathrach rywiol gyda rhywun am y tro cyntaf. Ceisia wynebu hyn, oherwydd mae bod yn ddiogel yn bwysicach na gorfod wynebu teimladau chwithig am ychydig.
- Gall rhyw heb amddiffyniad (heb ddulliau atal cenhedlu) arwain at feichiogrwydd digroeso a heintiau a drosglwyddir yn rhywiol
- Gweler yr adran HEINTIAU A DROSGLWYDDIR YN RHYWIOL am ragor o wybodaeth
- Defnyddia gondom BOB AMSER yn ystod cyfathrach rywiol i warchod rhag beichiogrwydd a heintiau a drosglwyddir yn rhywiol. Mae dulliau atal cenhedlu eraill sy'n gwarchod rhag beichiogrwydd yn unig yn cynnwys y bilsen atal cenhedlu a phigiad atal cenhedlu, ond mae dewisiadau eraill hefyd. Darllena’r adran DULLIAU ATAL CENHEDLU i gael rhagor o fanylion
- Gelli ddod yn feichiog y tro cyntaf y cei di gyfathrach rywiol, felly cofia ddiogelu dy hun a chadwa'n ddiogel a mwynha dy hun
- Os wyt wedi cael rhyw heb amddiffyniad, darllena’r adrannau BEICHIOGRWYDD a HEINTIAU A DROSGLWYDDIR YN RHYWIOL i gael cyngor a chymorth