Gwybodaeth » Pobl Yn Dy Fywyd » Bod mewn Perthynas » Cyd-fyw
Cyd-fyw
Mae dros 4 miliwn o gyplau yn cyd-fyw yng Nghymru a Lloegr ar hyn o bryd.
Gall byw gyda rhywun am y tro cyntaf fod yn rhamantus a chyffrous, ond gall rhannu tŷ neu fflat gryfhau neu chwalu perthynas, felly bydda’n sicr o dy bethau cyn i’r ddau ohonoch ymroddi i gyd-fyw.
Byddwch yn rhannu lle eich gilydd drwy’r adeg, ac mae’n bwysig sylweddol y gall hyn fod yn rhwystredig ar brydiau.
- Mae dod i adnabod eich gilydd yn gyntaf yn hanfodol. Efallai fod cyd-fyw yn ymddangos yn syniad da, ond pa mor dda ydych chi'n cyd-dynnu? A fyddwch yn dal i gyd-dynnu pan fyddwch yn rhannu eich amser a'ch lle gyda'ch gilydd?
- Bydd cyd-fyw yn golygu gorfod addasu dy ffordd o fyw, felly cofia ystyried sut gwnaiff hyn effeithio ar y ddau ohonoch
- Cyn i chi gychwyn byw gyda’ch gilydd, gall cael sgwrs am eich disgwyliadau gan y naill a’r llall gynorthwyo
- Efallai y gallwch drafod sut i drefnu arian, sut i rannu’r gwaith tŷ a neilltuo amser i’ch gilydd cyn i chi benderfynu cychwyn cyd-fyw
- Un peth y cynghorir cyplau sy’n ystyried cyd-fyw i’w wneud yw rhestru eu holl eiddo gan nodi pwy sy’n berchen ar beth. Bydd hyn yn golygu ei bod yn llawer haws rhannu pethau os daw perthynas i ben. Mae dadlau ynghylch eiddo yn un o'r prif resymau pam fydd cyplau'n gorfod mynd i'r llys
- Efallai byddwch yn dymuno agor cyfrif ar y cyd i dalu’r rhent neu’r morgais, y biliau a siopa. Gall unrhyw fanc neu gymdeithas adeiladu drefnu hyn i ti
Prynu neu rentu?
- Os nad wyt wedi cyd-fyw o’r blaen, efallai byddi'n dymuno cychwyn trwy rentu lle i fyw am ychydig fisoedd yn gyntaf fel cyfnod prawf. Fe wnaiff hyn roi cyfle i chi benderfynu a yw’n ddewis doeth i’r ddau ohonoch
- Os ydych yn ystyried prynu tŷ gyda’ch gilydd, bydd angen i ti ystyried llawer o bwyntiau pwysig, pa un ai a ydych yn briod neu’n ddibriod. Os ydych yn ddibriod ac yn prynu tŷ gyda’ch gilydd a bydd y ddau ohonoch yn cyfrannu at y morgais, cofia sicrhau fod enwau’r ddau ohonoch ar y morgais
Dy hawliau
Mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’ch hawliau rhag ofn na wnaiff pethau lwyddo rhwng y ddau ohonoch.
- Os ydych yn ddibriod ac yn cyd-fyw, bydd y gyfraith yn eich trin fel unigolion heb unrhyw gyfrifoldebau at eich gilydd os byddwch yn gwahanu
- Bydd llawer o bobl yn credu fod ganddynt yr un hawliau cyfreithiol â chyplau priod os ydynt wedi bod yn cyd-fyw â'u partner am ddwy flynedd neu ragor ('Priodas cyfraith gwlad'). Mae hynny’n anghywir, nid yw’r gyfraith hon wedi bodoli ers 1753! Mewn gwirionedd, ychydig iawn o hawliau sydd gennych
- Bydd angen i’r ddau ohonoch rannu'ch eiddo neu'r hyn rydych wedi'i brynu gyda'ch gilydd, a gall hyn fod yn broses anniben ac emosiynol. Bydd angen i chi gau cyfrifon ar y cyd, rhoi trefn ar filiau neu werthu tŷ, ac yn aml, bydd yn gadael pobl yn agored i niwed. Er enghraifft, efallai y gallai dy bartner gau eich cyfrif ar y cyd a chymryd yr holl arian heb dy ganiatâd
- Efallai byddwch yn dymuno llunio Cytundeb Cyd-fyw neu Weithred Ymddiriedaeth ynghylch eich trefniadau eiddo neu ariannol. Fodd bynnag, ni ellir eu gorfodi’n gyfreithiol bob amser