Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd Emosiynol a Meddyliol » Straen, Pryder ac Anhwylderau Panig



Straen, Pryder ac Anhwylderau Panig

Mae pryder yn deimlad y bydd pawb yn ei brofi rywbryd. Rydym i gyd yn ei brofi wrth wynebu sefyllfaoedd bygythiol neu anodd. Gall effeithio ar rywun yn eu corff a'u meddwl, a gallai gael ei achosi gan bryder neu ofn.

Bydd 1 o bob 10 o bobl yn cael profiad o bryder neu ffobia rywbryd yn eu bywyd.

Fel arfer mae ofn a phryder yn gallu bod o gymorth, yn helpu ni i osgoi sefyllfaoedd peryglus, yn ein gwneud yn wyliadwrus a'n hysgogi ni i ymdrin ‚ phroblemau. Ond, os yw'r teimladau yn dod yn rhy gryf neu'n mynd ymlaen yn rhyw hir, gallai atal ni rhag gwneud y pethau rydym eisiau a gwneud ein bywyd yn ddiflas.

Efallai bod pobl sydd dan straen neu'n bryderus yn:

  • Poeni trwy'r adeg
  • Teimlo'n flinedig
  • Ddim yn gallu canolbwyntio
  • Teimlo'n groendenau
  • Cysgu'n wael
  • Efo crychguriadau'r galon (palpitations)
  • Chwysu'n drwm
  • Cyhyrau dolurus a phoen
  • Anadlu'n drwm
  • Bod â phendro
  • Teimlo fel llewygu
  • Diffyg traul (indigestion)
  • Dolur rhydd (diarrhoea)

Ymosodiad o banig ydy pan fydd ofn a phryder dwys yn taro rhywun yn sydyn. Symptomau o ymosodiad o banig ydy:

  • Ymwybyddiaeth gynyddol o guriad y galon
  • Chwysu
  • Crynu neu ysgwyd
  • Teimlo fel dy fod yn tagu, yn diffyg anadl neu'n cael dy fygu
  • Poen neu anghysur yn y frest
  • Teimlo'n s‚l neu boenau yn y stumog
  • Teimlad o afrealrwydd neu ddatgysylltiad ohonot ti dy hun neu'r amgylchedd o'th gwmpas
  • Pendro, ansefydlog neu lewyg
  • Ofn marw
  • Diffyg teimlad, goglais neu binnau bach (pins and needles)
  • Rhynnu neu byliau o wres

Gall siarad am y broblem gyda ffrindiau neu deulu fod yn fanteisiol. Gall dod o hyd i ffyrdd o ymlacio helpu rheoli'r pryder a thensiwn ñ unrhyw beth o lyfrau i helpu dy hun a DVDs i ofyn am gymorth proffesiynol.

Gall meddyginiaeth helpu e.e. cyffuriau fel vallium neu dawelyddion. Maent yn effeithiol mewn trin pryder ond yn gallu bod yn gaethiwus, a pan fydd pobl yn ceisio stopio eu cymryd gallant brofi sgÓl-effeithiau annymunol. Ni ddylid eu defnyddio i drin problemau pryder hirdymor.

Cofia:

  • Siarada am dy deimladau
  • Cadwa'n actif
  • Bwyta'n dda
  • Cyfynga alcohol
  • Treulia amser gyda ffrindiau a theulu
  • Gofynna am gymorth
  • Cymera egwyl
  • Bydda'n ti dy hun
  • Gofala am eraill

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50