Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd Emosiynol a Meddyliol » Seicosis



Seicosis

Mae Seicosis yn derm seiciatryddol, ac mae'n disgrifio profiadau fel clywed neu weld pethau neu fod â chredoau anghyffredin, nad yw pobl eraill yn eu gweld nac yn eu rhannu.

Gall seicosis weithiau arwain at aflonyddu ar ffordd o feddwl, emosiynau ac ymddygiad pobl. Mae rhai symptomau cyffredin o seicosis yn cynnwys – iselder, pryder, bod yn groendenau, bod yn amheus o bobl eraill, newidiadau arferion bwyta, llai o egni, anawsterau canolbwyntio, syniadau od ac yn y blaen.

Dyma rai ffurfiau cyffredin o seicosis:

Sgitsoffrenia

Nid oes gan sgitsoffrenia unrhyw beth i'w wneud â ‘phersonoliaeth ranedig'. Mae'r term sgitsoffrenia yn golygu ‘meddwl wedi ei hollti' ac mae'n cyfeirio at newidiadau mewn swyddogaeth feddyliol pan newidir syniadau a chanfyddiadau. Mae'n effeithio ar feddwl, teimlo ac ymddygiad.

Gall effeithio ar bobl o bob cylch o fywyd. Mae'r symptomau cynnar yn aml yn datblygu mewn oedolaeth gynnar ac yn amrywio o berson i berson, ond gall barhau heb gael diagnosis.

I rai, gall y salwch ddechrau yn sydyn, fel arfer mae'r person (ifanc) yn mynd yn sâl yn gyflym iawn ac yn ddifrifol iawn. Gall eu syniadau fynd yn gymysglyd neu gallant brofi rhithweledigaethau. I eraill gall y newid ddigwydd yn raddol.

Gall y person brofi:

  • Rhithweledigaethau (clywed, gweld, teimlo, arogli neu flasu rhywbeth nad yw'n bodoli, fel pe bai yn real)
  • Clywed lleisiau yw'r rhithweledigaeth fwyaf cyffredin a brofir
  • Gall y person fod â chredoau ffug sy'n aml yn anghyffredin a allant deimlo sy'n real iawn. Er enghraifft, gall rhywun ofni ei fod yn cael ei wylio neu ei ddilyn. Gelwir y credoau hyn yn rhithdybiau
  • Mae'r person yn ymddangos fel pe bai'n dangos prin ddim emosiwn neu pan wna hynny gall ymddangos allan o'i gyd-destun e.e. crio wrth glywed jôc
  • Efallai mai ychydig iawn maent yn ei ddweud ac anaml y byddant yn dechrau sgwrs. Gallant siarad mewn modd a fydd yn ymddangos yn gymysglyd ac yn afresymegol, gan gyfleu ychydig iawn o ystyr. Gallant feddwl neu weithredu mewn modd na ellir ei ddeall yn hawdd

Anhwylder Deubegwn / Iselder Manig

Mae Anhwylder Deubegwn ac Iselder Manig yn cyfeirio at yr un broblem iechyd meddwl. Mae diagnosis yn aml yn anodd oherwydd mae'r symptomau yn gymhleth, a chaiff triniaeth briodol ei hoedi yn aml am hyd at ddegawd ar ôl y symptomau cyntaf. Gall unrhyw un ddatblygu anhwylder deubegwn.

Bydd rhwng 10-20% o bobl gydag anhwylder deubegwn yn cymryd eu bywydau eu hunain, a bydd hyd at draean yn gwneud ymdrech i ladd eu hunain.

Mae anhwylder deubegwn yn cynnwys amrywiadau hwyl eithafol (bod yn uchel ac yn isel). Gall yn aml ddigwydd pan fo pwysau gwaith, astudiaethau, teulu neu straen emosiynol ar eu huchaf. Mewn merched gellir sbarduno hyn gan enedigaeth neu yn ystod diwedd y mislif (menopause). Mae'r cyfnod cyntaf o fod yn sâl yn digwydd fel arfer yn ystod glasoed pan all newidiadau hormonaidd neu newidiadau mawr mewn bywyd (fel gadael cartref) sbarduno'r cyflwr.

Mania yw'r gair a ddefnyddir am gyfnodau o orfoledd mawr

  • Bydd meddwl rhywun yn rasio
  • Gall siarad yn gyflym iawn
  • Gall fod yn llawn egni
  • Efallai na fydd yn cysgu llawer
  • Neu yn y pen eithaf – bydd yn dechrau credu bod ganddo bwerau neu alluoedd arbennig
  • Gall wario llawer o arian
  • Gall fod â chredoau crefyddol eithafol
  • Gall gymryd risgiau peryglus

Gall cyflwr deubegwn ddigwydd mewn camau, yn aml gyda chyfnodau heb unrhyw broblemau o gwbl rhyngddynt. Mae rhai pobl yn cael dim ond un cyfnod difrifol o fod yn sâl yn ystod eu hoes.

Mae'n ymddangos mai'r allwedd i wella o anhwylder deubegwn yw diagnosis a thriniaeth sydyn. Os wyt ti'n dioddef o unrhyw rai o'r symptomau a restrwyd, cer i weld y Meddyg Teulu a siarada gyda ffrind agos neu aelod o'r teulu a all helpu.

Anhwylder Personoliaeth

Personoliaeth yw'r casgliad o ffyrdd yr ydym yn meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn, sy'n gwneud pob un ohonom yn unigolyn ac sy'n caniatáu i ni ryngweithio gyda phobl eraill. Ond i rai nid yw hyn yn digwydd.

Gallet fod ag anhwylder personoliaeth os:

  • Bydd rhannau o dy bersonoliaeth yn ei gwneud yn anodd i ti fyw gyda thi dy hun a phobl eraill
  • Dydy profiad ddim yn dysgu i ti sut i newid y rhannau anghynorthwyol ohonot ti
  • Rwyt ti'n ei chael yn anodd gwneud neu gadw perthnasoedd gyda ffrindiau, teulu a chydweithwyr
  • Rwyt ti'n ei chael yn anodd rheoli dy deimladau neu dy ymddygiad
  • Rwyt ti'n darganfod dy fod di'n gofidio neu yn niweidio pobl eraill oherwydd dy fod di mewn trallod

Nid yw achos anhwylder personoliaeth yn eglur ond ceir rhywfaint o dystiolaeth, fel gydag anhwylderau meddyliol eraill, y gall genynnau, yr ymennydd a chefndir rhywun chwarae rhan. Mae llawer o ffyrdd o drin anhwylderau personoliaeth, gofynna am gymorth gan y Meddyg Teulu neu siarada â rhywun os wyt ti'n bryderus am unrhyw beth yn yr adran hon.

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50