Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd Emosiynol a Meddyliol » Hunan Niweidio
Yn yr Adran Hon
Hunan Niweidio
Gall hunan niweidio gynnwys
- Torri
- Llosgi
- Sgaldio
- Taro pennau a rhannau eraill o'r corff yn erbyn wal
- Tynnu gwallt
- Brathu
- Llyncu neu fewnosod pethau
- Hunan wenwyno
Mae'n arwydd o drallod emosiynol fod rhywbeth yn ddifrifol o'i le. Mae hunan niweidio yn rhywbeth hynod bersonol ac mae unigolion yn debygol o fod â dull a rhan o'r corff a ffafrir ganddynt i niweidio eu hunain.
Er bod rhai pobl yn ei weld fel ‘rhyddhad' o'u problemau, gall hunan niweidio arwain at anaf neu haint difrifol. Er y defnyddir hwn fel arfer fel dull o ymdopi, gall hunan niweidio arwain at hunanladdiad mewn rhai achosion.
Os wyt ti'n teimlo'n ddigalon, yn bryderus neu yn cael teimladau sy'n arwain at hunan niweidio, ceisia siarad â rhywun. Nid oes raid i'r person hwn fod yn aelod o'r teulu neu yn warcheidwad, gall siarad â ffrindiau, y meddyg neu athro neu athrawes yr wyt ti'n ymddiried ynddynt. Mae digon o linellau cymorth cyfrinachol ar gael hefyd gyda phobl sy'n barod i wrando.