Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd Emosiynol a Meddyliol » Hunanladdiad



Hunanladdiad

Mae stigma yn aml yn gysylltiedig â phroblemau iechyd meddwl, sydd yn aml yn atal pobl rhag gofyn am gymorth.

Mae pobl yn aml â chywilydd siarad am eu problemau iechyd meddwl gyda ffrindiau neu deulu. Weithiau efallai nad ydynt eisiau gofyn am gymorth proffesiynol am broblemau iechyd meddwl am eu bod yn poeni beth fydd eraill yn meddwl.

Mae llawer o resymau gall rhywun fod yn meddwl am hunanladdiad, er enghraifft cael eu bwlio, colli ffrind neu berthynas. Mae'n fwy tebygol i'r rhai sydd yn dioddef o broblem iechyd meddwl, efo problem cyffuriau neu alcohol neu salwch corfforol tymor hir i gael syniadau am hunanladdiad.

Ar gyfartaledd mae 300 o bobl yn marw drwy hunanladdiad bob blwyddyn yng Nghymru.

Os wyt ti'n meddwl dy fod di'n adnabod rhywun sydd efallai'n meddwl am hunanladdiad yna dilyna'r camau hyn:

  • Gofynna a ydynt yn meddwl am hunanladdiad
  • Gwranda arnyn nhw (heb farnu)
  • Cysura nhw a rhoi gwybodaeth iddynt
  • Annog y person i gael cymorth a chefnogaeth
  • Annog y person i ddefnyddio strategaethau hunangymorth
  • Os wyt ti'n cael meddyliau am hunanladdiad yna siarada gyda rhywun, gallai hyn fod yn ffrind, aelod o'r teulu neu rywun proffesiynol (e.e. y Samariaid neu'r meddyg) – cofia, y rhan anoddaf ydy dechrau'r sgwrs, unwaith byddi di wedi gwneud hyn bydd yn mynd yn haws. Rho gynnig ar strategaethau i helpu dy hun fel ymarfer corff, hobi, darllen llyfrau hunangymorth a gofyn am gyngor ar y rhyngrwyd.

Related Media

Useful Links

--->

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50