Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd Emosiynol a Meddyliol » Ffobiu ac Arferion



Ffobias ac Arferion

Ffobia

Mae ffobia yn ofn dwys o sefyllfa neu wrthrych na fyddai’n poeni pobl eraill fel arfer.

Mae yna dros 10 miliwn o bobl yn y DU yn dioddef o ffobia, felly beth bynnag yw dy ffobia di, fe fydd rhywun yn deall.

Mae yna ambell fath o ffobia:

  • Ffobiâu penodol e.e. anifail, pryf, germau, pigiadau neu hedfan
  • Ffobiâu sefyllfa e.e. tywyllwch, uchder, gofodau wedi’u cau i mewn neu fod ar ben dy hun
  • Ffobiâu cymdeithasol e.e. siarad yn gyhoeddus, bwyta o flaen pobl eraill
  • Ffobiâu salwch e.e. ynglŷn â mynd yn sâl
  • Weithiau mae’n bosib olrhain ffobiâu i brofiad neu ddigwyddiad brawychus yn ystod plentyndod
  • Mae modd trin ffobiâu trwy ddefnyddio triniaethau siarad fel cwnsela neu hypnotherapi, ond mae'n bosib y bydd angen triniaeth feddygol ar gyfer ffobiâu mwy difrifol
  • Nid salwch yw ffobia, ond fe all beri pyliau o banig sy’n arwain at symptomau corfforol, fel teimlo’n fel llewygu, chwysu a diffyg anadl. Gweler adran Pyliau o Banig am gymorth a chyngor pellach

Arferion

  • Mae arferiad yn batrwm cyffredin o ymddygiad sy'n cael ei ailadrodd yn aml
  • Gall arferiadau gynnwys cnoi ewinedd, chwarae gyda gwallt neu gracio cygnau’r bysedd
  • Bydd arferiadau’n cael eu ffurfio dros amser ac maen nhw'n ddiddrwg ar y cyfan, er ei bod hi’n anodd cael gwared â nhw
  • Cyflwr yw Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol (OCD) lle bydd pobl yn meddwl am, a gwneud yr un pethau drosodd a throsodd, a gall hyn fod yn fwy difrifol nag arferiad cyffredin
  • Fel arfer, fe fydd yn achosi ymddygiad ailadroddus neu ddefodau (rituals) lle bydd dy ofnau a phryderon yn dod yn obsesiwn
  • Ymhlith obsesiynau cyffredin mae germau a baw, a gall hyn arwain at olchi dwylo neu lanhau yn ddefodol
  • Y driniaeth gorau ar gyfer OCD ydy therapi i helpu newid ymddygiad
  • Os wyt ti'n poeni am ffobia neu anhwylder gorfodaeth obsesiynol, mae'n syniad da siarad â rhywun a mynd i weld y Meddyg Teulu i gael cyngor ar driniaeth. Mae’n bosib trin y ddau beth gyda'r gefnogaeth gywir

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50