Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd Emosiynol a Meddyliol » Iselder
Yn yr Adran Hon
Iselder
Gall iselder effeithio ar bobl o bob oed, cefndir, ffordd o fyw a chenhedloedd. Gall y rhan fwyaf o bobl gydag iselder fyw eu bywydau yn arferol ac mae llawer o bobl yn dysgu llawer amdanyn nhw eu hunain ar ôl byw drwy gyfnod o iselder.
Defnyddir y gair iselder mewn llawer o wahanol ffyrdd. Gall pawb deimlo'n drist neu'n ddigalon pan fo pethau drwg yn digwydd. Ond nid iselder yw digalondid a thristwch bob dydd. Gall pobl sy'n ddigalon fod mewn hwyliau isel byr dymor, ond gallant ymdopi ag ef ac maent yn gwella yn fuan heb driniaeth.
Mae iselder yn mynd yn fwyfwy cyffredin. Gall rhai digwyddiadau yn ein bywydau sbarduno cyfnodau o iselder, er enghraifft straen arholiadau neu waith, problemau teuluol, neu bryderon am hunaniaeth neu duedd rywiol. Gall newidiadau hormonaidd, fel yn ystod glaslencyndod, beichiogrwydd neu ddiwedd y mislif hefyd gyfrannu at iselder.
Gallai pobl sy'n isel eu hysbryd brofi
- Tristwch neu hwyliau isel parhaus
- Colli diddordeb neu bleser
- Blinder neu ddiffyg egni
- Methu â chysgu
- Methu â chanolbwyntio neu fethu â gwneud penderfyniadau
- Hunanhyder isel
- Diffyg awydd bwyta neu eisiau bwyta mwy
- Meddyliau neu weithred hunan laddol
- Cynnwrf neu arafu symudiadau
- Euogrwydd neu feio'r hunan
Nid oes gan bawb sy'n dioddef o iselder yr holl symptomau yma. Bydd gan bobl sydd ag iselder mwy difrifol fwy o symptomau na'r rhai hynny sydd ag iselder cymedrol.
Gall ffrindiau a theulu fod yn ffynhonnell cymorth bwysig iawn i rywun sydd ag iselder. Mae pobl sy'n teimlo eu bod yn cael eu cefnogi gan y rhai o'u cwmpas yn gwella'n gyflymach. Nid yw gwella o iselder mor syml â “thynnu dy hun at ei gilydd”. Mae clywed hynny yn niweidiol, a gall wneud i bobl deimlo'n waeth amdanynt eu hunain, gan wneud eu hiselder yn waeth.
Ceir llawer o driniaethau ar gyfer iselder, o feddyginiaeth i therapïau cyflenwol i driniaethau siarad. Os wyt ti'n meddwl dy fod di'n dioddef o iselder, siarada â rhywun am sut rwyt ti'n teimlo neu gwna apwyntiad efo'r Meddyg Teulu.