Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd Emosiynol a Meddyliol » Anhwylderau Bwyta
Yn yr Adran Hon
Anhwylderau Bwyta
Gall unrhyw un ddatblygu anhwylder bwyta er y bydd yn fwy tebygol o ddigwydd mewn merched ifanc 15-25 oed. Mae dros 1.1 miliwn o bobl yn y DU yn cael eu heffeithio yn uniongyrchol gan anhwylder bwyta.
Mae'r term anhwylder yn ymdrin ag ystod eang o broblemau gyda bwyd, gan gynnwys newynu (anorecsia), pyliau o fwyta a chwydu (bwlimia) a gorfwyta mewn pyliau. Mae'r rhesymau a'r achosion yn amrywiol ac yn gymhleth.
Mae anhwylderau bwyta yn aml, ond nid bob amser, yn gysylltiedig â delwedd negyddol o'r corff a hunan-barch isel. Gall hefyd fod yn ymdrech i gael rheolaeth yn ôl pan fo'r person wedi bod mewn sefyllfa lle cymrwyd rheolaeth oddi arnynt.
Anorecsia Nerfosa
- Yn ofni rhoi pwysau ymlaen, yn teimlo'n dew hyd yn oed pan maen nhw wedi colli cymaint o bwysau fel ei fod yn amlwg i eraill
- Efallai byddant yn newynu eu hunain drwy fwyta swm bach iawn o fwyd
- Yn aml yn cuddio bwyd, yn dilyn cynlluniau cymhleth i osgoi bwyd ac i ymddangos yn drymach nag y maent
- Mae rhai yn esgus eu bod wedi bwyta pan nad ydynt
- Maent yn ymarfer y corff yn galed, yn defnyddio carthyddion (laxatives) neu'n gwneud eu hunain yn sâl er mwyn colli mwy o bwysau
- Gall mislif merch stopio neu ddim dechrau o gwbl
Bwlimia Nerfosa
- Efallai byddant yn edrych dros neu dan bwysau ac mae'n aml yn anodd ei ddarganfod. Mae ganddynt anhawster mawr yn rheoli eu bwyta, weithiau yn bwyta i reolau caeth neu'n cael cyfnodau o fwyta'n afreolus
- Mae'r bwyd y maent yn ei fwyta yn aml yn uchel mewn calorïau, braster neu garbohydradau. Wrth i berson ddechrau teimlo'n llawn mae teimladau o gywilydd ac euogrwydd yn gallu llethu nhw. Y teimladau yna ydy'r sbardun i wneud iddynt geisio chwydu
- Gall gorfwyta afreolus a chwydu yn barhaol wneud niwed difrifol i'r corff
- Gall defnydd rheolaidd o garthyddion arwain at glefyd y coluddion a gall diffyg mwynau hanfodol arwain at fethiant yr organau a marwolaeth
Mae anhwylderau bwyta yn datblygu yn gymharol araf, gyda'r ymddygiadau sydd ynghlwm yn dod yn fwy cymhleth. Mae'n bwysig cael cefnogaeth cyn gynted â phosib. Gall triniaeth gynnwys gofal yn yr ysbyty, triniaeth gan y Meddyg Teulu, dietegwyr a hunan gymorth. Mae cefnogaeth gan ffrindiau a theulu yn bwysig iawn.