Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Gweithio » Gwirfoddoli
Yn yr Adran Hon
Gwirfoddoli
Mae llawer o bobl yn cael eu denu i wirfoddoli oherwydd ei fod yn ffordd o gyfrannu rhywbeth at y byd ac mae hefyd yn ffordd wych o archwilio gwahanol wledydd a diwylliannau.
- Mae’r cyfleoedd sydd ar gael mor amrywiol ag yr ydwyt eisiau iddyn nhw fod. Gallet weithio ar fferm yn Israel, mynd ar daith gloddio archeolegol yn Ffrainc, cymryd rhan mewn prosiect ecolegol yn Awstralia, gweithio gyda phlant ag anableddau yng Nghymru neu helpu â chymorth trychineb yn y Philippines
- Yn aml, gall gwirfoddoli fod yn ffordd foddhaus iawn o weld y byd. Os byddi di’n gwirfoddoli mewn un lle am dipyn o amser, bydd yn rhoi cyfle iti ddod i adnabod y gymuned neu’r ardal yr ydwyt yn ymweld â hi yn iawn, a theimlo dy fod di’n gwneud gwahaniaeth
- Mae gwirfoddoli hefyd yn ffordd wych o ddod i adnabod pobl yn dy ardal di. Byddet ti’n synnu beth y gallet ti ddod o hyd iddo ar stepen dy ddrws. Gallet ti helpu â dy grŵp ieuenctid lleol, gardd gymunedol neu randir, siop elusen, canolfan gymunedol neu ysbyty lleol
- Nid oes yn rhaid gwirfoddoli trwy sefydliad bob tro, gallet ti gynnig help i gymydog oedrannus yn yr ardd neu gartref