Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Gweithio » Cyfnodau Sabothol
Yn yr Adran Hon
Cyfnodau Sabothol
Mae’n dod yn fwyfwy poblogaidd cymryd egwyl o waith amser llawn i deithio neu i wirfoddoli dramor. Efallai dy fod di am gymryd egwyl cyn i ti ymrwymo i swydd a thŷ, neu efallai dy fod am gael amser i feddwl am beth yr ydwyt eisiau’i wneud â dy fywyd.
Os ydwyt yn ystyried cymryd egwyl o dy yrfa, mae’n bwysig dy fod yn edrych ar y rhesymau pam yr ydwyt am wneud hynny. Os ydwyt yn anhapus yn y gwaith neu mewn perthynas, ceisia ddatrys unrhyw broblemau cyn i ti fynd - dim ond gwaeth fyddan nhw pan ddei di’n ôl.
- Gellir trefnu cyfnod sabothol â dy gyflogwr, fel y byddi di’n dychwelyd i weithio iddyn nhw ar ôl cyfnod penodedig o amser. Gofynna i'r rheolwr beth yw polisi’r cwmni ar gyfnodau sabothol. Efallai y byddi di'n cael tâl trwy’r cyfnod neu efallai y bydd yn ddi-dâl. Bydd yn rhaid i ti drafod hyn â dy bennaeth
- Gallet ti barhau i weithio os ydwyt yn penderfynu teithio. Er enghraifft, os ydwyt yn newyddiadurwr, gallet ti ysgrifennu am dy brofiadau wrth deithio
- Cofia mai braint yw cyfnod sabothol, ac nid hawl. Er mwyn darbwyllo dy gyflogwr o fanteision posib cyfnod sabothol, dylet ti dreulio amser yn cynllunio agenda a ddaw â budd yn ei sgìl
- Mae rhai cyflogwyr yn cynnig cynlluniau cyfnod sabothol fel rhan o dy gontract. Os byddi din gweithio am gyfnod penodol o amser, fel arfer ychydig o flynyddoedd, fe allet ti fod yn gymwys am gyfnod sabothol
- Cyn penderfynu cymryd cyfnod sabothol, mae’n debygol y bydd disgwyl i ti ddatblygu sgil a fydd yn gwella dy waith pan fyddi di'n dychwelyd, fel dysgu iaith arall
- Gall dy gyflogwr hefyd osod cyfyngiadau penodol ar yr hyn byddi di’n ei wneud, er enghraifft, dy rwystro rhag gweithio i gwmni cystadleuol
- Cyn i ti benderfynu cymryd cyfnod sabothol, gwna'n siŵr bod popeth wedi’i drefnu’n glir â dy gyflogwr. Hyd yn oed os nad ydwyt yn derbyn tâl, gwna'n siŵr dy fod yn parhau i fod yn weithiwr i dy gwmni. Bydd hyn yn sicrhau na fyddi di’n colli dy hawliau fel gweithiwr, er enghraifft lwfansau pensiwn
- Mae cyfnod sabothol yn fonws cyffredin mewn llawer o swyddi academaidd. Bydd llawer o diwtoriaid prifysgolion yn defnyddio’r amser yma i ffwrdd o ddysgu i ysgrifennu llyfrau neu i wneud gwaith ymchwil
- Mewn prifysgolion, Swyddogion Sabothol yw’r enw ar fyfyrwyr sy’n cael eu hethol i fod yn gynrychiolwyr undeb y myfyrwyr. Fel arfer, bydd y brifysgol yn talu rhywfaint o gyflog iddyn nhw