Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Gweithio » Gweithio Tymhorol
Yn yr Adran Hon
Gweithio Tymhorol
Mae gweithio tymhorol yn cyfeirio at fathau o swyddi y gall pobl eu gwneud dros dymor yr haf neu dymor y gaeaf.
- Gwna'n siŵr dy fod di’n cynllunio digon ymlaen llaw ar gyfer swyddi, oherwydd gall fod llawer o bobl eraill yn chwilio am swyddi ar gyfer yr haf neu’r gaeaf
- Ymhlith swyddi poblogaidd dros y gaeaf a’r haf mae lletygarwch ac arlwyo, yn ogystal â thwristiaeth a theithio, adloniant a gofal plant
- Bydd bod â phrofiad perthnasol neu gymhwyster yn help. Bydd hyn yn dy osod ar wahân i ymgeiswyr eraill gan roi gwell gobaith i ti o gael swydd
Chwilio am waith yng Nghymru a’r DU
- Gellir hysbysebu swyddi tymhorol mewn papurau newydd, ar hysbysfyrddau ac ar-lein. Fodd bynnag, efallai y bydd yn rhaid i ti chwilio’n galetach i ddod o hyd i swydd gan fod yna rai swyddi tymhorol nad ydyn nhw’n cael eu hysbysebu
- Gall Gyrfa Cymru a Learn Direct dy helpu di i ddod o hyd i swydd dros dro
- Gallet ti hefyd gysylltu â chwmnïau dy hun a gofyn a fydden nhw’n hoffi dy gyflogi di ar gyfer gwaith tymhorol
- Gwna'n siŵr bod dy CV di’n glir ac mor gyfredol â phosib. Cysyllta â'th gynghorydd gyrfa leol, a fydd yn gallu dy helpu di â hyn
Chwilio am waith y tu allan i Gymru a’r DU
- Os ydwyt yn chwilio am waith y tu allan i’r DU, gall dy ganolfan gyrfa roi gwybodaeth i ti am ble i chwilio
- Mae’r rhyngrwyd yn gallu bod yn lle da hefyd i ddod o hyd i waith dramor am dymor, er enghraifft mae cyrchfannau sgïo yn aml yn hysbysebu am weithwyr
- Gall llawer o gwmnïau dy helpu di i ddod o hyd i waith tymhorol dramor ond, yn aml, maen nhw’n codi ffi arnat ti i gofrestru
- Os ydwyt yn chwilio am waith ar gyfer yr haf neu’r gaeaf mewn gwledydd eraill, gwna dy ymchwil yn ofalus
- Ceisia ddod o hyd i waith cyn i ti adael Cymru neu’r DU. Os na allet ti wneud hyn, cer â digon o arian gyda thi fel bod gennyt ti ddigon i gadw dau ben llinyn ynghyd
- Er dy ddiogelwch dy hun, gad i bobl yn y DU wybod ble'r wyt ti - yn enwedig os ydwyt ti'n symud o gwmpas tra'r wyt ti'n gweithio