Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Gweithio » Cynlluniau Cyfnewid



Cynlluniau Cyfnewid

Mae cynlluniau cyfnewid gwaith yn dod yn fwyfwy cyffredin. Mae hyn yn cynnwys cyfnewid swyddi â rhywun sydd mewn safle tebyg. Gall cynlluniau cyfnewid hefyd gynnwys swyddi dan oruchwyliaeth neu gyfnod o waith dramor, yn debyg i raglen gyfnewid ysgol.

  • Gall cynllun cyfnewid gwaith fod yn ffordd wych o ddysgu sgiliau newydd a deall yn well sut mae rhywun arall yn gweithio
  • Os ydwyt yn gweithio’n amser llawn, efallai gallet ti ddefnyddio’r we i ddod o hyd i rywun mewn gwlad arall sy’n gwneud yr un swydd â thi, a threfnu dy gynllun cyfnewid dy hun
  • Mae rhai galwedigaethau’n gweddu’n arbennig o dda i gynlluniau cyfnewid. Ymhlith y rhain mae athrawon, llyfrgellwyr, llafurwyr ac amaethwyr
  • Yn aml, gall cynllun cyfnewid ehangu dy ddealltwriaeth o dy swydd dy hun trwy gynnig profiad o sut mae pethau’n gweithio mewn gwlad arall
  • Fel rhywun ifanc, gallet ti fanteisio ar lawer o raglenni cyfnewid a fydd yn trefnu teithiau awyren, dy fisâu gwaith, ac weithiau lle i ti weithio. Gall y rhain fod yn ddefnyddiol, gan y gallan nhw wneud dy gynllun cyfnewid yn llawer llai trafferthus i ti. Nid oes rhaid i'r rhain gynnwys cyfnewid swyddi â rhywun arall gyda sefydliadau fel UNA Exchange
  • Weithiau gallet ti gyfnewid swyddi, efallai â rhywun sy’n gweithio yn yr un sefydliad â thi. Mae’n werth gwneud ychydig o waith gyda’r sawl yr ydwyt yn dymuno cyfnewid ag ef/â hi, a mynd at dy gyflogwyr gyda chynllun cadarn

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50