Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Gweithio » Gweithio Tramor



Gweithio Tramor

Mae mwyfwy o bobl o Brydain yn dewis gweithio dramor. Erbyn 2020, amcangyfrifir y bydd dwy filiwn yn fwy o bobl yn mynd dramor i weithio.

  • Mae llawer o bobl yn dewis gweithio y tu allan i Brydain er mwyn cael her newydd, cael newid neu gael profiad newydd, ac weithiau er mwyn cael ansawdd bywyd gwell
  • Gall gweithio mewn gwlad dramor fod yn brofiad brawychus, felly mae'n hanfodol dy fod yn cynllunio ymlaen llaw gymaint ag y bo modd
  • Pethau i’w hystyried cyn i ti adael

    • Cysyllta â dy ganolfan gwaith lleol i gael mwy o wybodaeth am weithio yn Ewrop cyn i ti adael. Byddan nhw’n dy helpu di i ddod o hyd i waith dramor ac yn egluro beth yw dy hawliau
    • Cyn i ti adael, cynllunia lle byddi di’n byw a faint fydd cost dy daith
    • Efallai y byddi di am deithio i’r wlad yr hoffet ti weithio ynddi i chwilio am waith. Byddi di hefyd yn gallu gweld yn union sut le ydy’r wlad, a phenderfynu lle hoffet ti fyw
    • Pan fyddi di’n gwneud ceisiadau am swyddi dramor, llunia CV a rhestra dy gymwysterau, dy sgiliau a dy brofiad gwaith. Efallai y byddi di am chwilio am swydd dy hun er mwyn dod o hyd i rywle i weithio
    • Bydda'n ymwybodol bod gan wahanol wledydd wahanol ffyrdd o ysgrifennu CVs a llythyrau
    • Ceisia ddarganfod a fydd angen i ti siarad iaith arall yn ystod dy amser yn Ewrop. Efallai y byddi di’n darganfod nad yw hyn yn hanfodol, ond dylet ti ystyried dysgu’r iaith frodorol er mwyn cyfoethogi dy brofiad
    • Y mwyaf yr ydwyt yn ceisio’i ddeall am y wlad yr ydwyt yn ymweld â hi, gorau oll fydd dy brofiad. Gwna dy ymchwil a dod i wybod am y wlad cyn i ti fynd

    Rheoliadau

    • Mae gan rai gwledydd yn Ewrop nad ydyn nhw’n rhan o’r UE gyfreithiau rhwystrol o ran cyflogi pobl nad ydyn nhw o’r wlad honno. Gall dy ganolfan gwaith lleol dy helpu di â mwy o wybodaeth
    • Bydd rhai gwledydd yn gofyn i ti gael Fisa neu drwydded gweithio cyn y gallet ti weithio dramor. Mae’n syniad da cysylltu â’r Llysgenhadaeth sy’n seiliedig yn y DU ar gyfer y wlad benodol honno. Byddan nhw’n gallu rhoi gwybodaeth i ti am fisâu, trwyddedau gweithio, budd-daliadau a chymwysterau angenrheidiol
    • Os ydwyt am weithio mewn gwlad sy’n aelod o’r UE, dylet ti gael dy drin yn gyfartal â dinasyddion y wlad honno

    Gwaith Gwirfoddol

    • Mae gwirfoddoli dramor yn ffordd wych o gynyddu dy hyder a dy brofiad
    • Gwna'n siŵr dy fod yn dewis asiantaeth ag enw da i'th helpu i ddod o hyd i leoliad. Y peth gorau i’w wneud yw siarad â phobl eraill sydd wedi gwneud rhywbeth tebyg neu ymchwilia ar-lein

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50