Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Gweithio » Fisu a Thrwyddedau Gweithio
Yn yr Adran Hon
Fisâu a Thrwyddedau Gweithio
Mae gweithio dramor yn ffordd wych o ddod i adnabod gwlad, ond cyn i ti fynd i ffwrdd, mae’n hollbwysig dy fod yn gwneud yn siŵr dy fod di'n cael y fisa neu’r drwydded weithio gywir.
- Os wyt yn dymuno i fynd i wlad sy'n rhan o'r EFTA, yr EEA neu'r Undeb Ewropeaidd yna nid oes angen fisa neu drwydded gwaith arnat
- Mae yna lawer o gynlluniau sy’n trefnu lleoliadau gwaith dramor, fel Camp America, neu rai swyddi lle'r ydwyt yn gweithio fel athro TEFL (dysgu Saesneg fel iaith dramor). Bydd y cwmnïau hyn yn trefnu dy fisa gwaith ar dy ran di
- Yn dibynnu ar ba wlad yr ydwyt eisiau ymweld â hi, mae'n bosibl bydd angen i ti ddangos tystiolaeth bod gennyt ti swydd i fynd iddi cyn i ti adael. Dyma’r achos yn UDA, lle bydd yn rhaid i’ch cyflogwyr noddi dy fisa gwaith
- Dylet gysylltu â llysgenhadaeth y wlad yr ydwyt am deithio iddi. Byddan nhw’n gallu dweud wrthyt ti am ofynion fisa gwaith ar gyfer y wlad honno
- Gall wirio'r hyn sydd angen arnat i ymweld â phob gwlad gyda chyfeiriadur y Swyddfa Dramor a Chymanwlad