Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Gweithio » Blynyddoedd Bwlch



Blynyddoedd Bwlch

Mae blwyddyn fwlch yn gyfle i weld a gwneud pethau na fyddet ti byth yn profi fel arfer cyn i ti parhau â'th astudiaethau neu ddod o hyd i swydd.

Mae'n gyfle i adael dy gyfrifoldebau tu ôl wrth brofi'r byd.

  • Mae blynyddoedd bwlch mor boblogaidd bellach fel bod yna gyfleoedd di-ben-draw am bethau i’w gwneud. Gallet ti deithio gyda grŵp neu ar dy ben dy hun, gwirfoddoli ym Mhrydain neu mewn gwlad arall, neu gallet ti gael profiad gwaith neu hyfforddiant gwerthfawr
  • Yn gyffredinol, mae pobl yn cymryd blwyddyn fwlch ar ôl gadael yr ysgol a chyn dechrau mewn prifysgol neu swydd, ond gallet ti gymryd blwyddyn fwlch unrhyw adeg yn dy fywyd. I gael mwy o wybodaeth, gweler tudalen Cyfnodau Sabothol y wefan yma
  • Os ydwyt yn cynllunio blwyddyn fwlch, ceisia gael cymaint o wybodaeth â phosib am dy opsiynau. Yn ogystal â’r we, efallai bod gan dy lyfrgell leol lyfrau am flynyddoedd bwlch a theithio
  • Mae’n syniad da siarad â phobl eraill sydd eisoes wedi bod i ffwrdd. Gallan nhw roi cyngor uniongyrchol i ti am beth i’w wneud a lle i fynd

Teithio

  • Mae yna lawer o gwmnïau sy’n trefnu teithiau blwyddyn fwlch o amgylch y byd. Yn aml iawn, rhennir y cynlluniau blwyddyn fwlch yma i wahanol adrannau, a gallet ti gymryd rhan mewn prosiect gwirfoddol fel dysgu neu waith cymunedol, cyn mynd ar alldaith neu deithio’n annibynnol
  • Gall y cynlluniau yma fod yn weddol ddrud, ac mae’n debyg y bydd yn rhaid i ti wneud dipyn o waith codi arian cyn i ti fynd i ffwrdd. Fodd bynnag, mantais y prosiectau yma yw cael popeth wedi’i drefnu ar dy gyfer di, yn ogystal â chael cyfle i gyfarfod â llawer o bobl newydd
  • Os ydwyt yn dymuno, gallet ti fynd ar dy ben dy hun. Bydd yn rhaid i ti gynllunio dy daith yn ofalus iawn os byddi di’n teithio’n annibynnol. Bydd yn rhaid i ti gael y fisâu cywir ar gyfer teithio, gwneud yn siŵr bod gennyt ddigon o arian ar gyfer dy daith gyfan (ac arian ychwanegol rhag ofn y bydd yna argyfwng), penderfynu gyda phwy yr ydwyt am deithio ac i ble'r ydwyt am fynd
  • Gall teithio’n annibynnol fod yn ffordd wych o ennill hyder a dod i wybod mwy amdanat ti dy hun. Unwaith y byddi di wedi edrych ar ôl dy hun mewn gwlad dramor lle nad ydwyt yn deall yr iaith nac yn gwybod beth yw’r arferion, mae’n siŵr y byddi di’n teimlo’n barod am unrhyw beth. Mae hefyd yn ffordd wych o gyfarfod â phobl na fyddet ti fyth wedi dod ar eu traws nhw fel arall
  • Os byddi di'n teithio yn Ewrop, efallai y byddi di am brynu cerdyn Interrail, a fydd yn caniatáu i ti deithio heb gyfyngiad ar drenau mewn gwledydd penodol
  • Os byddi di’n mynd ymhellach, efallai byddai tocyn awyren o amgylch y byd yn opsiwn da. Byddi di’n dewis lle'r ydwyt am fynd cyn gadael, yna gallet ti deithio mor gyflym neu mor araf ag y mynnu di, cyn belled â dy fod di'n glynu at y dyddiad yr wyt yn hedfan yn ôl i’r DU
  • Gwaith

    • Mae’n siŵr y byddi di am gael swydd gartref yn ystod rhan o dy flwyddyn bwlch, i ariannu dy astudiaethau dramor. Mae hyn yn syniad da, oherwydd y mwyaf yr ydwyt yn paratoi’n ariannol, lleiaf oll fydd gennyt ti i boeni yn ei gylch ar dy daith
    • Yn ogystal â swydd dros dro, efallai y byddi di am ennill profiad gwaith yn yr yrfa yr wyt am ei dilyn. Mae rhai cwmnïau mawr yn cynnal lleoliadau blwyddyn fwlch ar gyfer rhai sy’n gadael yr ysgol, yn arbennig mewn diwydiannau fel bancio, peirianneg a TG
    • Gallet hefyd weithio tra'r ydwyt dramor i ariannu dy daith. Gallet weithio yn y DU yn weddol rwydd. Mae llawer o bobl yn gwneud swyddi dros dro fel casglu ffrwythau neu weini am arian ychwanegol
    • Mae’n anoddach cael fisâu gwaith mewn rhai gwledydd. Os byddi di am weithio yn yr Unol Daleithiau, er enghraifft, byddai’n rhaid i ti wneud yn siŵr dy fod di wedi trefnu rhywle i weithio i noddi dy daith cyn i ti fynd. Fodd bynnag mae’n weddol hawdd cael fisa ar gyfer gwaith dros dro yn Awstralia. Cysyllta â llysgenhadaeth y wlad yr ydwyt am weithio ynddi o flaen llaw i wirio’r rheolau. I gael mwy o wybodaeth, gweler adran Fisâu a Thrwyddedau Gweithio
    • Nid cael tâl yn unig mae gweithio’n ei olygu. Efallai dy fod di am wneud gwaith gwirfoddol hefyd. Gallet ti wirfoddoli dramor, fel athro efallai, neu wneud rhywbeth yn nes at adref, fel gweithio mewn cartref gofal lleol. Mae gwirfoddoli’n ffordd foddhaus iawn o helpu eraill, a gall hefyd fod yn llawer o hwyl. I gael mwy o wybodaeth, gweler yr adran Gwirfoddoli

    Astudio

    • Mae astudio yn ystod dy flwyddyn fwlch yn ffordd dda o ddarganfod beth yr ydwyt am ei astudio yn nes ymlaen, yn arbennig os ydwyt yn ansicr ynglŷn â beth i’w astudio yn y brifysgol
    • Efallai y byddi di am ddilyn cwrs sylfaen, er mwyn gweld pa faes pwnc fyddai o ddiddordeb i ti. Ymhlith y pynciau lle byddai dilyn cwrs sylfaen yn ddefnyddiol mae celfyddyd, neu feddyginiaeth os nad ydwyt wedi ennill cymwysterau Safon Uwch sy’n seiliedig ar wyddoniaeth
    • Gallet hefyd fachu’r cyfle i ddysgu sgil gwbl newydd. Gallet ti ddysgu iaith, dilyn y cwrs Trwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewropeaidd, neu roi cynnig ar gwrs galwedigaethol fel gwaith plymwr. Dylai bod gan dy goleg addysg bellach lleol fanylion ar y cyrsiau sydd ar gael
    • Gallet ti ddilyn cwrs dramor. Os oes gennyt ti ddiddordeb mewn hanes celfyddyd, er enghraifft, gallet ti fynd i’r Eidal i astudio’r union ddarluniau yr ydwyt â diddordeb ynddyn nhw, neu os ydwyt am edrych ar hen hanes, gallet ti ymweld â safleoedd Rhufeinig a safleoedd Groegaidd ym Môr y Canoldir

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50