Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Arian » Budd-daliadau » Cap ar Fudd-daliadau



Uchafswm Budd-daliadau

Fel rhan o'r diwygiad lles diweddar (newidiadau) erbyn hyn mae yna cyfyngiad ar gyfanswm y budd-dal y gellir ei hawlio.

Bydd hyn yn effeithio ar bawb 16 - 64 sy'n gwneud cais.

Mae'r cap yn berthnasol i gyfanswm y swm y mae dy gartref yn derbyn o'r budd-daliadau canlynol a bydd yn gymwys i Gredyd Cynhwysol pan fydd yn cyrraedd ble'r ydwyt ti.

Y cyfyngiadau ar faint o fudd-daliadau y gellir eu hawlio yw:

  • £350 yr wythnos i oedolion sengl nad oes ganddynt blant, neu nad yw eu plant yn byw gyda nhw
  • £500 yr wythnos i oedolion sengl y mae eu plant yn byw gyda nhw
  • £500 yr wythnos i gyplau (pa un ai ydyw eu plant yn byw gyda nhw neu beidio)

Mae rhai eithriadau i’r uchafswm budd-daliadau os ydwyt yn gymwys i gael:

  • Credyd Treth Gwaith
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, os wyt yn cael yr elfen cymorth
  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Byw i Bobl Anabl
  • Taliad Annibyniaeth Bersonol
  • Budd-daliadau Anafiadau Diwydiannol (a thaliadau cyfatebol fel rhan o bensiwn anabledd rhyfel neu Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog)
  • Pensiwn Rhyfel, Pensiwn Rhyfel Gwraig Weddw neu Ŵr Gweddw

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50