Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Arian » Budd-daliadau » Lwfans Ceisio Gwaith



Lwfans Ceisio Gwaith

Mae Cymhorthdal ​​Incwm yn gymorth os nad oes gennyt ti a dy bartner unrhyw incwm, neu os ydwyt ar incwm isel. Ni allu di i hawlio os ydwyt yn ddi-waith, yn derbyn Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, neu os ydwyt yn gweithio 16 awr yr wythnos neu mwy.

Nid ydyw ar gyfer unrhyw un sydd ar incwm isel; i'w derbyn, rhaid i ti fod yn un o grŵp o bobl sy'n gallu derbyn budd-dâl heb orfod chwilio am waith.

Er enghraifft, efallai dy fod yn feichiog, yn ofalwr, neu'n rhiant unigol sydd â phlentyn dan 5 neu, mewn rhai achosion, yn methu gweithio oherwydd dy fod yn sâl neu'n anabl.

Gall dy incwm ac unrhyw gynilion (dros £5,999) effeithio ar faint y byddi di'n cael, a bydd incwm a chynilion dy bartner hefyd yn cael ei hystyried. Ni fyddet fel arfer yn gymwys os oes gennyt gynilion dros £16,000.

Mae Cymhorthdal ​​Incwm yn fudd-dal anghyfrannol. Mae hyn yn golygu y gallu di ei dderbyn hyd yn oed os nad ydwyt yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol (taliadau).

Sut gaf i fy nhalu?

Bydd di'n cael:

  • taliad sylfaenol (lwfans personol)
  • taliadau ychwanegol (premiymau)

Byddi di'n cael o leiaf £56.80 yr wythnos mewn lwfans personol a rhwng £15.55 a £122.20 yn ychwanegol (premiymau), gan ddibynnu ar dy amgylchiadau, e.e. os ydwyt yn bensiynwr, yn anabl neu'n rhiant sengl gyda phlentyn anabl.

Gallu di edrych ar y cyfraddau presennol fan hyn fel arfer Cymhorthdal ​​Incwm yn cael ei dalu bob pythefnos.

Fel arfer mae Cymhorthdal ​​Incwm yn cael ei dalu bob pythefnos. Caiff ei dalu i mewn i gyfrif e.e. gyfrif banc, felly gwna'n siŵr dy fod wedi cael un!

Pwy arall all wneud cais?

Fel arfer, ni allu di wneud cais am Gymhorthdal ​​Incwm os ydwyt mewn addysg lawn-amser. Fodd bynnag, gallai pobl ifanc 19 oed neu iau mewn addysg uwchradd llawn amser sydd â phlant, heb riant (rhieni) (neu'n gyfatebol) yn byw gyda nhw, neu'n wynebu risg difrifol o gamdriniaeth neu drais wneud cais.

Efallai y byddi di dal i dderbyn Cymhorthdal ​​Incwm os ydwyt yn gweithio llawn amser, ond dim ond os ydwyt yn cymryd absenoldeb rhiant di-dâl, neu absenoldeb tadolaeth â thâl neu heb dâl.

Gallu di wirfoddoli cymaint o oriau ag y dymunet a dal i hawlio Cymhorthdal ​​Incwm. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ti ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau cyn i ti ddechrau gwirfoddoli a rhaid i ti gadw unrhyw dderbynebau dreuliau.

Sut i wneud cais

Gallet wneud cais am Gymhorthdal ​​Incwm dros y ffôn ar 0800 055 6688 6688 (Saesneg) neu 0800 012 1888 (Cymraeg), drwy ffôn testun ar 0800 023 4888, neu drwy lenwi un o'r ffurflenni hyn a'i hanfon i'th Ganolfan Byd Gwaith lleol.

Effeithiau ar fudd-daliadau eraill

Fel o'r blaen, ni allet wneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, os ydwyt yn hawlio Cymhorthdal ​​Incwm.

Mae Cymhorthdal ​​Incwm yn fudd-dal bwysig oherwydd ar ôl i ti ei gael, gallet derbyn Budd-dal Tai a chymorth arall yn awtomatig, e.e. gyda chostau iechyd.

Efallai gei di help gyda dy dreth gyngor hefyd.

Gallet hawlio Credyd Treth Plant os ydwyt yn hawlio Cymhorthdal ​​Incwm a chael plant.

Efallai medru di derbyn Cymhorthdal ​​Incwm os ydwyt yn derbyn Lwfans Gofalwr neu os ydwyt yn gofalu am rywun sy'n derbyn Lwfans Byw i'r Anabl ar gyfradd ganol neu'r gyfradd uchaf neu unrhyw gyfradd o ran byw bob dydd y Taliad Annibyniaeth Bersonol.

Nodyn: Gall y cap ar fudd-daliadau newydd cyfyngu cyfanswm y budd-dal a gei di, felly efallai y byddi di'n derbyn llai na'r disgwyl!

Defnyddia'r cyfrifiannell budd-daliadau i weithio allan faint o arian y gallu di gael.

Mae Credyd Cynhwysol eisoes wedi dechrau cymryd lle Cymhorthdal ​​Incwm mewn rhai rhannau o'r DU. Erbyn 2017, bydd Cymhorthdal ​​Incwm yn cael ei disodli'n llwyr gan Gredyd Cynhwysol ledled Cymru gyfan.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50