Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Arian » Budd-daliadau » Credyd Cynhwysol



Credyd Cynhwysol

Ers Ebrill 2013, mae Credyd Cynhwysol yn raddol wedi dechrau cymryd lle nifer o fudd-daliadau allweddol i bobl o oedran gwaith sy'n chwilio am waith neu ar incwm isel.

Cafwyd ei gyflwyno fel rhan o'r Deddf Diwygio Lles a'i bwriad yw symleiddio'r system fudd-daliadau a "gwneud i waith dalu".

Un taliad misol ydyw sy'n cymryd lle Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm , Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm a Lwfans Cymorth, Cymhorthdal ​​Incwm, Credyd Treth Gwaith, Credyd Treth Plant, a Budd-dal Tai.

Fe'i telir yn wahanol i fudd-daliadau cyfredol:

  • Telir yn uniongyrchol i gyfrif o dy ddewis (felly bydd angen cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd arnat)
  • Os ydwyt yn byw gyda dy bartner a'r ddau ohonoch yn hawlio CC, byddwch yn derbyn un taliad ar gyfer y ddau ohonoch
  • Bydd cymorth rhent yn cael ei gynnwys yn dy daliad CC, felly byddi di'n talu dy landlord dy hun

Ar hyn o bryd, Shotton yw'r unig le yng Nghymru sydd wedi newid i CC, ond erbyn diwedd 2016, bydd yn cael ei ymestyn i weddill Prydain Fawr. Gallet gadw'n gyfredol am ba ganolfannau gwaith sy'n cynnig CC ar hyn o bryd, trwy edrych ar wefan y Llywodraeth.

Yn pryderu efallai y byddi di'n colli newid dy ganolfan waith? Paid â phoeni, byddi di'n cael gwybod pryd y bydd Credyd Cynhwysol yn effeithio arnat ti.

Mae'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn awgrymu dy fod yn paratoi ymlaen llaw ar gyfer y newid, ac mae wedi rhoi'r fideo defnyddiol hwn at ei gilydd i ddweud wrthyt sut.

I hawlio CC, cer i wefan Gov.uk i ddechrau. Os oes gennyt unrhyw ymholiadau am dy gais, gallet ffonio 0345 600 0723 (Saesneg) neu 0800 012 1888 (Cymraeg). Mae galwadau 41c y munud. Mae hefyd ffôn testun ar gael: 0345 600 0743.

Mae'r swm a gei di yn gostwng yn awtomatig wrth i dy incwm cynyddu, ond nid oes terfyn ar y nifer o oriau allu di weithio a pharhau i hawlio CC. Er mwyn deall hyn yn well, gwylia'r fideo hwn o'r Llywodraeth.

Er mwyn amcangyfrif faint yn well gallai dy fyd gwaith fod, rho gynnig ar y cyfrifiannell hwn. Er mwyn amcangyfrif faint o fudd-dal y gallu di hawlio mewn cyfanswm, defnyddia'r gyfrifiannell hon gan y Llywodraeth.

Yn olaf, os ydwyt eisiau CC, bydd rhaid i ti lofnodi 'Ymrwymiad Hawlydd', lle byddi di'n cytuno i gwblhau tasgau penodol yn gyfnewid am dy CC. Bydd dy 'Ymrwymiad' union yn dibynnu ar ffactorau personol, fel dy iechyd a chyfrifoldebau gofal.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50