Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Arian » Budd-daliadau » Y Gronfa Gymdeithasol



Cronfa Gymdeithasol

Cafodd y gronfa gymdeithasol, grantiau gofal cymunedol a benthyciadau argyfwng eu diddymu ar y 1af o Ebrill 2013.

Gallu di gysylltu gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau neu dy Ganolfan Byd Gwaith lleol i ddarganfod pa gymorth sydd ar gael. Er enghraifft:

Bydd 'Benthyciadau Cyllidebu' yn parhau i gael eu cynnig gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Nid ydyw benthyciadau argyfwng a grantiau gofal cymunedol wedi cael eu disodli unrhyw le ym Mhrydain yn uniongyrchol, ond yng Nghymru, gallu di gael y 'Gronfa Cymorth Ddewisol' oddi wrth dy gyngor lleol am gymorth mewn argyfwng.

O'r 1af o Ebrill 2013 ymlaen, os ydwyt mewn trafferthion ariannol am fod dy daliadau budd-dal wedi cael eu hoedi neu mae yna broblem dechnegol, gallu di wneud cais i'r Adran Gwaith a Phensiynau ar gyfer 'Benthyciad Tymor Byr'.

Benthyciadau Cyllidebu

Gallu di dderbyn Benthyciad Cyllidebu i helpu talu am bethau hanfodol fel rhent, dodrefn, dillad neu ddyled hurbwrcas. Y swm isaf gallet ti fenthyg ydy £100.

Gan fod hwn yn fenthyciad, mae'n rhaid i ti ei dalu'n ôl.

Mae Benthyciadau Cyllidebu yn ddi-log felly ti ddim ond yn talu'n ôl beth rwyt ti wedi'i fenthyg. Fel arfer mae'n rhaid talu'r benthyciad yn ôl o fewn 104 wythnos.

Gallu di wneud cais am fenthyciad os wyt ti neu dy briod/partner wedi bod yn derbyn budd-daliadau yn seiliedig ar incwm am o leiaf 26 wythnos.

Mae faint y byddi di'n cael yn dibynnu ar p'un ai a ydwyt yn sengl, faint o blant sydd gennyt, dy allu i ad-dalu'r benthyciad a faint o gynilion sydd gennyt.

Sut i wneud cais: Argraffa a cwblha ffurflen gais SF500 a'i yrru neu fynd ag ef i'r Ganolfan Byd Gwaith lleol. Mae'n posibl cael y ffurflen o dy Ganolfan Byd Gwaith lleol hefyd.

Os oes gen ti unrhyw gwestiynau am y cais, cysyllta a dy Ganolfan Byd Gwaith lleol.

Y Gronfa Cymorth Ddewisol Cymru

Mae'r Gronfa Cymorth Ddewisol yn cynnig taliadau, neu gymorth o fath arall*, i bobl sydd angen cymorth ar frys a ble mae angen penodol i warchod eu hiechyd a'u lles.

Bydd y taliadau ar gael i bobl sydd heb unrhyw ffordd arall i dalu'r costau byw uniongyrchol. Nid talu costau byw cyfredol yw ei fwriad. Nid ydynt i fod i gyfarfod â chost treuliau parhaus.

* Efallai byddi di'n derbyn arian neu cymorth mewn ffyrdd eraill, megis talebau bwyd neu eitemau cartref, fel peiriannau golchi, os bydd dy un di'n torri. Gelwir y rhain yn 'grantiau heb arian' ac ni fydd rhaid eu talu'n ôl.

O fewn y cynllun mae dau fath o gymorth grant:

  • Taliadau Cymorth Mewn Argyfwng - cymorth mewn argyfwng neu pan fydd fygythiad
  • uniongyrchol i iechyd neu les. Mae unrhyw un dros 16 oed yn gallu cael ei ystyried i fod yn gymwys am y taliadau hyn os ydynt angen help i dalu costau oherwydd argyfwng neu drychineb
  • Taliadau Cymorth i Unigolion - i gyfarfod angen brys penodol sydd yn galluogi neu'n cynorthwyo pobl fregus i fyw yn annibynnol, neu barhau i fyw yn annibynnol, yn y gymuned. I fod yn gymwys bydd rhaid i ymgeiswyr: fod â hawl i, a derbyn budd-daliadau lles sy'n seiliedig ar incwm; neu os ydynt yn disgwyl i adael sefydliad neu gartref gofal o fewn 6 wythnos, a' i fod yn debygol y bydd ganddynt hawl i dderbyn budd-daliadau lles sy'n seiliedig ar incwm ar ôl gadael

Gallet ti fod yn gymwys i dderbyn Taliadau Cymorth Mewn Argyfwng os wyt ti:

  • Yn 16 oed neu'n hŷn
  • Heb arian i ymateb i dy anghenion uniongyrchol (neu dy deulu) ar ôl argyfwng neu drychineb
  • Yn meddwl bod perygl o niwed difrifol neu risg i dy iechyd a diogelwch (neu dy deulu) heb y grant Cymorth Mewn Argyfwng
  • Heb unrhyw fodd arall o gael yr help rwyt ti ei angen gan nad oes gen ti arian na ffordd arall o gael arian

Sut i wneud cais

  • Ffôn - ffonia 0800 859 5924 am ddim o linell tir neu 03301 015 000 lle codir yn ôl y raddfa leol
  • Cwblha'r ffurflen gais ar-lein drwy glicio yma
  • Clicia yma i lawrlwytho ffurflen gais i wneud cais trwy'r post a dylid eu hanfon at: Y Gronfa Cymorth Dewisol, Blwch Post 2377, WRECSAM, LL11 0LG

Gweler y ffynhonnell swyddogol ar gyfer gwybodaeth y Gronfa Cymorth Dewisol yng Nghymru yma ond ni allet wneud cais yma.

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50