Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Arian » Budd-daliadau » Lwfans Cyflogaeth a Chymorth



Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Tâl Salwch Statudol

Os ydwyt yn rhy sâl i weithio, gallet gael £87.55 yr wythnos mewn Tâl Salwch Statudol (TSS).

Mae Statudol yn syml yn golygu ei fod yn ddyletswydd ar rhywun i wneud rhywbeth. Yma, mae'r dyletswydd ar dy gyflogwr i dy dalu di am hyd at 28 wythnos.

Caiff ei dalu yn yr un ffordd ag y maent yn talu dy gyflog (ee yn wythnosol neu'n fisol).

Yn ôl y gyfraith, ni allant talu llai na £87.55 yr wythnos i ti, ond efallai y bydd rhai cwmnïau yn talu mwy na £87.55 yr wythnos os oes ganddynt eu cynlluniau eu hunain. Gelwir y rhain yn 'cynlluniau galwedigaethol'.

I hawlio, mae'n rhaid i ti ennill mwy na £111 yr wythnos ac wedi bod yn sâl am fwy na phedwar diwrnod yn olynol (gan gynnwys diwrnodau di-waith).

Fodd bynnag, i gyd sydd angen yw llythyr gan y meddyg os ydwyt wedi colli mwy na saith diwrnod o waith.

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Mae'r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)yno i bobl 16 oed neu'n hŷn, nad ydynt yn gallu gweithio oherwydd salwch neu anabledd ac na allant hawlio Tâl Salwch Statudol.

Ar gyfer y rhan fwyaf o hawliadau newydd, mae'r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth wedi cymryd lle'r Budd-dal Analluogrwydd a Chymhorthdal ​​Incwm a dalwyd oherwydd salwch neu anabledd. Bydd ESA ei hun yn fuan yn cael ei ddisodli gan y Credyd Cynhwysol. Nodyn: ni allu di hawlio Credyd Cynhwysol a Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.

Os ydwyt yn derbyn Budd-dal Analluogrwydd neu Gymhorthdal ​​Incwm yn barod oherwydd salwch neu anabledd, gallu di barhau ar y budd-dal hwnnw am y tro.

Mae dau fath o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA):

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Cyfrannol - y gallet gael os ydwyt wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol (taliadau)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gysylltiedig ag incwm - sy'n cael ei dalu os nad oes gennyt ddigon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol, incwm neu gynilion

Alla i wneud cais?

Gallet wneud cais ar gyfer Lwfans Cyflogaeth a Chymorth os ydwyt yn gyflogedig, yn hunangyflogedig, yn ddi-waith neu yn fyfyriwr ac rwyt yn derbyn Lwfans Byw i'r Anabl [CLIC LINK] neu'r Taliad Annibyniaeth Bersonol [CLIC LINK]. Mae'r faint o waith y caniateir i ti wneud wrth hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn cael ei adnabod fel 'gwaith a ganiateir'.

Ni allu di gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth os ydwyt ti neu dy bartner yn derbyn Cymhorthdal ​​Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm neu Gredyd Pensiwn.

Nodyn: Cewch eich trin fel cwpl os ydwyt yn byw gyda phartner (p'un a ydwyt yn briod neu mewn partneriaeth sifil ai peidio), felly bydd y ddau incwm yn cael eu hystyried yn dy hawliad ESA yn gysylltiedig ag incwm a byddet yn derbyn y 'cyfraddau cyplau'.

Byddet yn derbyn Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm os yw dy incwm yn llai na'r swm y mae'r Llywodraeth yn meddwl bydd yn ddigon i ti fyw arno.

Gallet ddarllen beth sy'n cyfrif fel 'incwm' fan hyn.

Os ydyw dy gynilion dros £16,000, ni fyddi di'n derbyn Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm, hyd yn oed os yw dy incwm yn is na'r swm y mae'r Llywodraeth yn credu sydd ei hangen arnat.

Fel o'r blaen, i fod yn gymwys ar gyfer Lwfans Cyflogaeth a Chymorth cyfrannol, rhaid dy fod wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol (taliadau).

Os ydwyt yn gymwys i gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth cyfrannol, gallet dal i wneud cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm.

Sut mae'r hawliad a'r asesiad yn gweithio?

Ni fyddet yn cael unrhyw arian ar gyfer tri diwrnod cyntaf dy gais. Gelwir y rhain yn dy 'ddiwrnodau aros'.

Ar ôl hyn ac am y 13 wythnos gyntaf, byddet yn derbyn cyfradd sylfaenol o fudd-dal tra bod gweithiwr iechyd proffesiynol annibynnol yn asesu dy allu i wneud y gwaith. Gelwir yr archwiliad hwn yn 'asesiad gallu i weithio' a gelwir y cyfnod 13-wythnos hwn yn 'cyfnod asesiad'.

Mae'r cyfraddau yn newid bob mis Ebrill

Ar ôl 13 wythnos a dy asesiad, os ydwyt dal i fod yn gymwys i gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, byddet yn symud ymlaen i'r 'prif gam' a derbyn mwy o swm. Yna gei di dy roi mewn un o ddau grŵp:

  • Grŵp Gweithgareddau Cysylltiedig â Gwaith - Os yw'r Llywodraeth yn credu y gallet fynd yn ôl i weithio yn y dyfodol, gei di dy roi fan hyn. Byddant yn rhoi help i ti allu gwneud hyn, ond os byddi di'n ei wrthod, byddi di'n colli rhai o dy fudd-daliadau
  • Grŵp Cefnogi (GC) - Os oes gennyt gyflwr sy'n cyfyngu yn ddifrifol pa waith y gallet ei wneud, gei di dy roi fan hyn

Nodyn: os yw'r Llywodraeth yn credu y gallet chwilio am waith ar unwaith, byddi di'n colli'r ESA ac efallai y bydd angen i ti wneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith.

Beth sy'n digwydd i fy Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau?

Bydd y Llywodraeth bob amser yn ei dalu tra byddi di yn y Grŵp Cefnogi ond yn stopio talu ar ôl 365 diwrnod os ydwyt yn y Grŵp gweithgareddau cysylltiedig â gwaith.

Os yw dy Lwfans Cyflogaeth a Chymorth cyfrannol yn stopio, efallai gallu di gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm, gan ddibynnu ar dy amgylchiadau.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50