Gwybodaeth » Arian » Budd-daliadau » Taliad Annibyniaeth Bersonol
Yn yr Adran Hon
Lwfans Byw i'r Anabl ar gyfer Plant a Thaliad Annibyniaeth Bersonol (PIP)
Lwfans Byw i'r Anabl ar gyfer Plant
Mae Lwfans Byw i'r Anabl (DLA) yn fudd-dal y gall dy blentyn (dan 16 oed) gael os ydynt yn sâl neu'n anabl, h.y. anghenion gofal personol neu broblemau symudedd. Mae'n bodoli i'th helpu gyda'r costau ychwanegol a allai fod gennyt oherwydd bod dy blentyn yn anabl.
Nodyn: Ers Ebrill 8, 2013, ni allai unrhyw un 16-64 oed gwneud cais newydd am Lwfans Byw i'r Anabl; rhaid iddynt wneud cais am y Taliad Annibyniaeth Bersonol newydd (PIP) (isod). Os yw dy blentyn yn agosáu 16, bydd y Llywodraeth yn ysgrifennu atat yn esbonio sut i wneud cais am PIP.
Mae faint o Lwfans Byw i'r Anabl yr wyt ti'n cael dy dalu yn dibynnu ar anghenion dy blentyn, ond bydd yn rhywle rhwng £21.55 a £138.05. Dim ond plant sydd angen llawer mwy o gymorth o ddydd i ddydd na phlant eraill o'r un oedran sy'n derbyn Lwfans Byw i'r Anabl.
Gallet wneud cais ar-lein neu gallet ffonio 0845 712 3456 / testun 0845 722 4433 i gael ffurflen gais. Efallai bydd angen i dy blentyn cael ei hasesu i weithio allan pa gymorth sydd angen arnynt. Os felly byddet yn derbyn llythyr i roi gwybod i ti.
Alla i wneud cais?
Rhaid i'th blentyn fod wedi cael eu hanawsterau am o leiaf dri mis, oni bai eu bod yn derfynol wael, ac os felly gallu di wneud cais ar unwaith.
Os ydwyt o dan 16 oed, bydd yn rhaid i rywun wneud y cais ar dy ran.
Ni fydd dy incwm a'th gynilion yn effeithio ar dy gais. Ni fydd dy hawliadau budd-daliadau eraill fel arfer yn effeithio ar dy gais Lwfans Byw i'r Anabl.
Mae dwy elfen i'r Lwfans Byw i'r Anabl: Gofal a Symudedd (y gallu i symud o gwmpas yn rhydd). Gall plentyn gael arian ar gyfer un neu'r ddau.
Mae tair cyfradd gofal gwahanol, yn dibynnu ar faint o ofal y mae ei angen arnat.
- Fe gei di'r gyfradd is os oes angen cymorth arnat i goginio pryd o fwyd neu os oes angen gofal arnat am ran sylweddol o'r diwrnod;
- Fe gei di'r gyfradd ganolig os bydd angen gofal rheolaidd arnat trwy gydol y dydd neu’r nos, neu oruchwyliaeth ddi-baid trwy gydol y dydd neu’r nos, neu os oes arnat angen rhywun i'th helpu tra byddet ar ddialysis;
- Fe gei di’r gyfradd uwch os bydd arnat angen gofal neu oruchwyliaeth gyson trwy gydol y dydd a'r nos neu os wyt yn derfynol wael
Mae gan yr elfen symudedd ddwy gyfradd wahanol, yn dibynnu ar faint o anhawster a gei di wrth gerdded yn yr awyr agored neu ar hyd ffordd anghyfarwydd heb oruchwyliaeth. Gall hynny ddigwydd os wyt yn ddall, yn defnyddio cadair olwyn neu os oes gennyt anawsterau dysgu neu broblemau ymddygiad difrifol.
- Does dim rhaid i ti fod yn derbyn cymorth â dy anghenion symudedd i hawlio, ond mae'n rhaid i ti allu profi fod angen hynny arnat
- Fe gei di’r gyfradd is os na elli di gerdded y tu allan heb arweiniad neu oruchwyliaeth gan rywun arall y rhan fwyaf o’r amser. Gallai hyn fod oherwydd anabledd corfforol neu feddyliol
- Fe gei di’r gyfradd uwch os yw dy broblemau symudedd yn waeth na hyn, felly os nad wyt yn gallu cerdded neu prin yn gallu cerdded oherwydd anabledd corfforol, y boen neu'r effaith ar dy iechyd os ydwyt yn cerdded
Taliad Annibyniaeth Bersonol
Mae Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP) yn bodoli er mwyn dy helpu di gyda rhai o'r costau ychwanegol a achosir drwy fod yn anabl neu'n sâl am dymor hir, os ydwyt yn 16 oed i 64.
Ers Ebrill 8fed 2013, mae PIP wedi dechrau cymryd lle Lwfans Byw i'r Anabl (DLA) ar gyfer pobl 16-64 oed, hyd yn oed i'r rhai sydd â dyfarniad DLA amhenodol neu oes.
Ni all unrhyw un 16-64 gwneud cais newydd am Lwfans Byw i'r Anabl; rhaid iddynt wneud cais am PIP. Fodd bynnag, yn ôl y Llywodraeth, mae'n bosibl na fydd hawliadau presennol ar gyfer pobl 16-64 oed ar gyfer DLA yn cael ei effeithio tan 2015 neu'n hwyrach.
Mae dwy ran i PIP: Byw Bob Dydd a Symudedd (y gallu i symud o gwmpas yn rhydd). Gallet ti gael arian ar gyfer un neu'r ddau.
- Efallai y gei di'r elfen byw bob dydd os oes angen cymorth arnat, er enghraifft, paratoi neu fwyta bwyd; golchi dy hun a defnyddio'r tŷ bach; gwisgo/dadwisgo; darllen a chyfathrebu; gofalu am dy feddyginiaethau; gwneud penderfyniadau am arian
- Efallai y gei di'r elfen symudedd os oes angen help arnat yn mynd allan neu'n symud o gwmpas
- Mae'r faint o PIP a gei di yn cael ei benderfynu gan ddefnyddio system bwyntiau. Y llai abl yr ydwyt i wneud y gweithgareddau a restrir uchod, y mwyaf o bwyntiau a gei di. Os gei di mwy na nifer penodol o bwyntiau, gei di'r gyfradd PIP Estynedig; yn is gei di'r gyfradd safonol, neu ddim PIP o gwbl
(Sut) Alla i hawlio PIP?
Mae'r faint o PIP y cei di dy dalu yn dibynnu ar sut mae dy gyflwr yn effeithio arnat ti, nid y cyflwr ei hun, ond bydd yn rhywle rhwng £21.55 a £138.05 (yr un fath â Lwfans Byw i'r Anabl ar gyfer Plant).
Gallu di fod mewn neu allan o waith i hawlio a ni fydd dy incwm a'th gynilion yn effeithio ar dy gais.
Bydd angen i ti fod wedi cael dy anawsterau am o leiaf dri mis, oni bai dy fod yn dioddef o salwch angheuol, ac os felly gallu di wneud cais ar unwaith.
I ddechrau dy hawliad, ffonio neu anfon neges destun at yr Adran Gwaith a Phensiynau ar 0800 917 2222. Fe gei di dy asesu gan weithiwr proffesiynol iechyd annibynnol i weithio allan pa help sydd angen arnat, ac yna ei hailasesu yn rheolaidd i wneud yn siŵr dy fod yn cael y cymorth cywir. Byddi di'n cael llythyr yn egluro ble i fynd am hyn.
Mae'n rhaid i ti gysylltu â'r llinell gymorth PIP os bydd dy amgylchiadau'n newid neu'n wynebu dirwy posibl o £50. Gallu di ffonio 0345 850 3322 neu anfon testun i 0345 601 6677.
Cymorth Arall
Mae 'n bosibl y gall pobl sy'n derbyn elfen symudedd PIP cael Bathodyn Glas; cludiant cyhoeddus am ddim; brydles car, sgwter neu gadair olwyn â phŵer gan ddefnyddio'r cynllun Symudedd a chael treth car manner pris (neu'n well).
Mae 'n bosibl y gall pobl sy'n derbyn elfen symudedd PIP a ganddynt gofalwr cael Lwfans Gofalwr neu Gredyd Gofalwr. Os ydwyt mewn swydd neu ar fin dechrau gwaith cyflogedig, efallai'r gallu di gael cymorth gan Fynediad i Waith, cynllun y Llywodraeth i helpu pobl i oresgyn rhwystrau i ddechrau neu gadw swydd. Mae cymorth ariannol ac ymarferol ar gael, fel help gyda chyfweliadau am swyddi, rheoli cyflyrau iechyd meddwl a chostau cludiant, os na allet gymryd cludiant cyhoeddus, neu os oes angen i ti addasu dy gerbyd.