Gwybodaeth » Arian » Budd-daliadau » Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant ac Asiantaeth Cynnal Plant
Yn yr Adran Hon
Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant ac Asiantaeth Cynnal Plant
Mae cynhaliaeth plant yn gefnogaeth ariannol sydd yn helpu tuag at gostau byw beunyddiol plentyn pan fydd y rhieni wedi gwahanu.
Mae ar gyfer plant sydd o dan 16 oed neu dan 20 oed ac mewn addysg llawn amser (ond nid yn uwch na Lefel A neu gywerth).
Gallwch chi ddatrys/trefnu cynhaliaeth plant eich hunain (a elwir yn 'gytundeb teuluol'), os allwch chi gytuno rhwng eich gilydd. Os na, gallwch wneud cais am gynhaliaeth plant drwy'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.
O'r 25ain o Dachwedd 2013, cymerodd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant le'r Asiantaeth Cynnal Plant (CSA) fel y lle i anfon hawliadau newydd. Fodd bynnag, mae'r Asiantaeth Cynnal Plant yn parhau i ymdrin ag achosion presennol.
Sut mae'n gweithio?
Mae'r rhiant sydd ddim yn gofalu am y plentyn o ddydd i ddydd (y 'rhiant sy'n talu') yn talu cynhaliaeth plant i'r rhiant neu'r person sydd yn gofalu amdanynt (y 'rhiant sy'n derbyn').
Gallai’r 'rhiant sy'n derbyn' fod yn nain neu'n daid neu'n warcheidwad.
Gall y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant ddod o hyd i'r rhiant arall, os ydyw ar goll; cyfrifo faint sy'n ddyledus gan y 'rhiant sy'n talu'; casglu a throsglwyddo taliadau, os nad ydwyt yn gallu datrys Taliadau Uniongyrchol (hy rhwng eich gilydd); a gorfodi taliadau a fethwyd.
Nodyn: bydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant ond yn cyfrifo ac yn casglu cynhaliaeth plant os bydd rhywun yn gwneud cais ar ei chyfer. Dy gam cyntaf yw cysylltu ag Opsiynau Cynhaliaeth Plant ar 0800 0835 130 (ffôn) neu 0800 988 988 (ffôn testun).
Os ydwyt yn colli dy daliadau, allu di gael dy gymryd i'r llys neu gael dy eiddo wedi tynnu allan i dalu am y taliadau.
Ystyriaethau Eraill
Nid oes rhaid i ti dalu Cynhaliaeth Plant os ydwyt yn:
- Fyfyriwr prifysgol llawn amser;
- Fyfyriwr 16-19 oed ac mewn addysg uwch amser llawn;
- Byw mewn gofal preswyl neu gartref nyrsio ac yn derbyn help gyda ffioedd;
- Garcharor
Mae yna hefyd sefyllfaoedd eraill pan fydd taliadau cynhaliaeth plant yn stopio.
Nid yw Cynhaliaeth Plant yn effeithio ar faint o fudd-daliadau nad ydynt yn seilieidig ar brawf modd byddi di'n derbyn, na budd-daliadau seiliedig ar brawf modd, oherwydd nid yw'n cael ei ystyried yn incwm.
Gall faint a gei di mewn Cynhaliaeth Plant cael eu heffeithio os ydwyt yn hawlio Credyd Cynhwysol.