Gwybodaeth » Arian » Budd-daliadau » Budd-dal Plant
Yn yr Adran Hon
Budd-dal Plant
Budd-dal Plant yw’r budd-dal ar gyfer unrhyw un sy’n magu plant o dan 16 oed (neu o dan 20 os ydynt mewn addysg neu hyfforddiant cymeradwy).
Nid yw'n cael ei effeithio gan incwm na chynilion a cheir ei dalu i bob plentyn yn unigol.
Ar hyn o bryd, gallu di gael £20.50 yr wythnos ar gyfer y plentyn hynaf (neu unig blentyn) a £13.55 yr wythnos ar gyfer pob plentyn ychwanegol. Gei di dy dalu bob pedair wythnos i mewn i gyfrif banc, felly gwna'n siŵr fod cyfrif 'da ti!
Nodyn: Mae Budd-dal Plant yn cael ei gynnwys yn y Cap ar Fudd-daliadau [CLIC LINK], sy'n golygu y gall cyfanswm taliad dy fudd-daliadau fod yn llai na'r disgwyl.
Mae yna wybodaeth bwysig ar gyfer y rhai sy'n mabwysiadu neu'n maethu.
Dylet hawlio Budd-dal Plant trwy gwblhau ffurflen, sydd ar gael gan y Swyddfa Budd-dal Plant neu yn swyddfeydd Canolfan Byd Gwaith neu gallet lawrlwytho'r ffurflen o.
Os oes gennyt unrhyw ymholiadau, rhif y Llinell Gymorth Budd-dal Plant yw 0300 200 3100 (ffôn testun 0300 200 3103).
Gall gymryd hyd at 12 wythnos i gwblhau ceisiadau newydd felly gwna gais cyn gynted ag y bo modd. Nodyn: Gallet hawlio Budd-dal Plant cyn gynted ag y bydd dy blentyn yn cael ei eni neu yn dod i fyw gyda thi.
1 Comment – Postiwch sylw
Rhoddwyd sylw 32 mis yn ôl - 8th February 2014 - 03:56am
There are a lot of things that individuals take for granted and some of the most innocuous things take a lot of work. Car paint, for example, has to undergo a ton of screening before it can get put on a vehicle. Car paint screening consists of subjecting tones of paint to years of intense conditions to see if it can stand up. It costs a huge installment loan to pay for all the paint testing.