Gwybodaeth » Arian » Budd-daliadau » Lwfans Gofalwr
Yn yr Adran Hon
Lwfans Gofalwr
Mae'r Lwfans Gofalwr yn fudd-dal ar gyfer pobl sydd yn rhoi gofal rheolaidd a sylweddol i bobl anabl yn eu cartref eu hunain.
Nid oes rhaid i ti fod yn perthyn i, neu'n byw gyda'r person yr ydwyt yn gofalu amdano.
Mae Lwfans Gofalwr yn £61.35 yr wythnos ar hyn o bryd. Gallu di edrych ar y cyfraddau cyfredol fan hyn.
Mae'r Lwfans Gofalwr yn ffurfio rhan o dy incwm trethadwy ac yn gallu effeithio ar dy fudd-daliadau eraill.
I fod yn gymwys, mae’n rhaid iti:
- Fod dros 16 oed
- Gofalu am berson anabl am dros 35 awr yr wythnos
- Gofalu am berson anabl sy’n derbyn elfen ofal lwfans byw i’r anabl ar y gyfradd ganol neu uwch
- Heb fod mewn addysg llawn amser neu'n astudio am fwy na 21 awr yr wythnos
- Ennill llai na £102 yr wythnos (ar ôl trethi, costau gofal tra byddi di yn y gwaith a 50% o'r hyn y byddi di'n talu i mewn i dy bensiwn)
I wneud cais, gallu di naill ai lawrlwytho ffurflen gais neu gwna cais ar-lein yma
Gallu di ddewis i gael dy dalu naill ai bob wythnos o flaen llaw, neu bob 4 neu 13 wythnos. Byddi di'n cael dy dalu i mewn i gyfrif e.e. cyfrif banc.
Os nad wyt ti'n siŵr os allu di hawlio Lwfans Gofalwr, siarada â'r Canolfan Cyngor ar Bopeth neu'r Uned Lwfans Gofalwr ar 0845 608 4321 (ffôn), 0845 604 5312 (ffôn testun) neu drwy cau.customer-services@dwp.gsi.gov.uk.
Yr effaith ar fudd-daliadau eraill
Gall Lwfans Gofalwr effeithio ar fudd-daliadau eraill y gallu di hawlio a budd-daliadau'r person yr ydwyt yn gofalu.
Er enghraifft, bydd eu premiwm anabledd difrifol yn stopio os ydwyt yn derbyn Lwfans Gofalwr.
Bydd unrhyw fudd-daliadau prawf modd a gei di yn cael ei leihau gan yr un swm yr ydwyt yn derbyn gan Lwfans Gofalwr.
Gweler y rhestr lawn o fudd-daliadau yr effeithir arnynt yma.
Nodyn: Bydd y cap budd-dal newydd [CLIC LINK] yn effeithio ar gyfanswm y swm o fudd-dal y gallu di dderbyn, sy'n golygu efallai y byddi di'n derbyn llai nag y tybiet ar y cyfan.
Dylet ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau i gyfrifo faint y gallu di gael, ac os/sut bydd dy fudd-daliadau eraill yn cael eu heffeithio.