Gwybodaeth » Arian » Budd-daliadau » Budd-daliadau Mamolaeth a Thadolaeth
Yn yr Adran Hon
Tâl Mamolaeth
Os wyt ti'n cael babi, mae gen ti hawl i rai budd-daliadau mamolaeth benodol gan ddibynnu ar dy amgylchiadau.
Pan fyddi di'n cymryd amser i ffwrdd i gael babi efallai byddi di'n gymwys i:
- Absenoldeb Mamolaeth Statudol
- Tâl Mamolaeth Statudol
- Absenoldeb taledig ar gyfer gofal cyn-geni (gofal yn ystod beichiogrwydd)
- Cymorth ychwanegol gan y llywodraeth
Absenoldeb Mamolaeth Statudol
Mae Absenoldeb Mamolaeth Statudol yn 52 wythnos. Mae Statudol yn syml yn golygu fod yn rhaid i dy gyflogwr cynnig hyd at 52 wythnos, os ydwyt yn gymwys i'w gael. Mae'n cynnwys:
- Absenoldeb Mamolaeth Gyffredin (26 wythnos gyntaf)
- Absenoldeb Mamolaeth Ychwanegol (26 wythnos diwethaf)
Does dim rhaid i ti gymryd 52 wythnos ond rhaid i ti gymryd pythefnos o absenoldeb ar ôl i'th faban gael ei eni (neu bedair wythnos os ydwyt yn gweithio mewn ffatri).
Gallu di ddefnyddio'r cynllunydd mamolaeth hwn oddi wrth y Llywodraeth i weithio allan y dyddiad cynharaf y gallu di ddechrau dy gyfnod mamolaeth.
Rwyt ti'n gymwys am Absenoldeb Mamolaeth Statudol os:
- Rwyt ti'n weithiwr cyflogedig (ac nid yn 'weithiwr')
- Rwyt ti'n rhoi'r rhybudd cywir i dy gyflogwr
Nid oes rhaid i ti gymryd 52 wythnos ond mae'n rhaid i ti gymryd pythefnos o absenoldeb ar ôl i'r babi gael ei eni (a phedwar wythnos os wyt ti'n gweithio mewn ffatri).
Nodyn: Mae'r holl gyflogeion yn weithwyr, ond nid yw pob gweithiwr yn cael eu cyflogi - Mae gan 'gweithiwr cyflogedig' hawliau cyflogaeth a chyfrifoldebau ychwanegol. Gweler mwy yma.
Ta waeth pa mor hir ti wedi bod gyda' dy gyflogwr, faint o oriau rwyt ti'n ei weithio neu faint wyt ti'n cael dy dalu, gallu di dal i dderbyn Absenoldeb Mamolaeth Statudol os ydwyt yn weithiwr cyflogedig.
Tâl Mamolaeth Statudol
Mae Tâl Mamolaeth Statudol yn cael ei dalu gan dy gyflogwr am hyd at 39 wythnos. Ti'n cael:
- 90% o dy enillion wythnosol ar gyfartaledd (cyn treth) am y chwe wythnos gyntaf
- £138.18 neu 90% o dy enillion cyfartalog wythnosol (pa bynnag un yw'r lleiaf) am y 33 wythnos nesaf
Defnyddia'r cyfrifiannell tâl mamolaeth i gael gwybod faint o arian gallet ti gael.
Ni all dy gyflogwr dy dalu di llai nag ydynt i fod i yn ôl y gyfraith. Fodd bynnag, efallai y bydd rhai cwmnïau yn talu mwy i ti os ydyw yn dy gontract cyflogaeth. Gelwir hyn yn 'Tâl Mamolaeth Alwedigaethol'.
Mae Tâl Mamolaeth Statudol yn cael ei dalu yn yr un ffordd â dy gyflog (e.e. yn fisol neu'n wythnosol) ac fel arfer yn dechrau pan fyddi di'n dechrau dy gyfnod mamolaeth. Bydd Treth ac Yswiriant Gwladol yn cael ei dynnu allan.
I fod yn gymwys ar gyfer Tâl Mamolaeth Statudol, rhaid i ti:
- Ennill o leiaf £111 yr wythnos ar gyfartaledd
- Rhoi'r rhybudd cywir
- Profi dy fod di'n feichiog
- Wedi bod yn gweithio i’r un cyflogwr yn barhaol am o leiaf 26 wythnos erbyn yr amser rwyt ti 15 wythnos i ffwrdd o’r dyddiad rwyt ti'n disgwyl cael y babi - gelwir yn 'wythnos cymhwyso'
- Budd-dal Plant
- Credyd Treth Plant
- Credyd Treth Gwaith - gall hyn barhau am 39 wythnos ar ôl i ti gychwyn absenoldeb mamolaeth
- Cymhorthdal Incwm - efallai byddi di'n derbyn hwn tra ti ddim yn gweithio
- Fe allu di gael Grant Mamolaeth Cychwyn Gadarn am £500 (fel arfer os dy blentyn cyntaf ydyw)
- Wythnos neu bythefnos o Absenoldeb Tadolaeth Arferol
- Hyd at 26 wythnos o Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol - ond dim ond os yw'r fam/cyd-fabwysiadwr yn dychwelyd i'r gwaith
- Dyddiad geni disgwyliedig y babi
- Pryd ti eisiau'r absenoldeb gychwyn (e.e. diwrnod y geni neu wythnos cyn y geni)
- Os wyt ti eisiau un wythnos neu bythefnos i ffwrdd.
- Fod yn weithiwr cyflogedig (ac nid yn 'weithiwr')
- Rhoi'r rhybudd cywir
- Wedi bod yn gweithio i’r un cyflogwr yn barhaol am o leiaf 26 wythnos erbyn yr amser rwyt ti 15 wythnos i ffwrdd o’r dyddiad rwyt ti'n disgwyl cael y babi - gelwir yn 'wythnos cymhwyso'
- Ennill o leiaf £111 yr wythnos ar gyfartaledd
- Rhoi'r rhybudd cywir
- Cael dy gyflogi gan dy gyflogwr hyd at y dyddiad geni
- Wedi bod yn gweithio i’th gyflogwr yn barhaol am o leiaf 26 wythnos erbyn yr amser rwyt ti 15 wythnos i ffwrdd o’r dyddiad rwyt ti'n disgwyl cael y babi - gelwir yn 'wythnos cymhwyso'
Os nad wyt ti'n gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol yna mae'n rhaid i'r cyflogwr roi ffurflen SMP1 i ti yn esbonio pam fedri di ddim cael y taliad o fewn 7 diwrnod o wneud y penderfyniad. Gallet ti gael Lwfans Mamolaeth yn lle hynny.
Lwfans Mamolaeth
Fel arfer, mae Lwfans Mamolaeth yn cael ei dalu i ti gan y Ganolfan Byd Gwaith os nad ydwyt yn gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol gan dy gyflogwr.
Efallai byddi di'n derbyn Lwfans Mamolaeth am hyd at 39 wythnos os ydwyt yn weithiwr cyflogedig ond ni alli di dderbyn Tâl Mamolaeth Statudol.
Os felly, gallet ti gael un ai £138.18 yr wythnos neu 90% o dy enillion wythnosol ar gyfartaledd (pa bynnag un yw'r isaf).
Efallai byddi di'n cael derbyn Lwfans Mamolaeth am hyd at 14 wythnos os nad ydwyt yn gyflogedig/hunangyflogedig, neu os ydwyt yn briod/mewn partneriaeth sifil am o leiaf 26 wythnos allan o'r 66 wythnos cyn y disgwylir i'th babi gael ei eni.
Os felly, gallet ti gael £27 yr wythnos am hyd at 14 wythnos. Mae hyn ond yn berthnasol os yw dy fabi yn cael ei eni ar neu ar ôl y 27ain Gorffennaf, 2014.
Mae rheolau eraill hefyd yn berthnasol am y ddau a gellir eu gweld yma.
Mae'r holl fudd-daliadau a lwfansau yn cael eu talu i mewn i gyfrif, fel cyfrif banc, felly sicrha fod gennyt ti un!
Sut i wneud cais
Printia a chwblha'r ffurflen hawlio MA1 neu ei lenwi ar-lein, ei brintio a'i yrru i'r cyfeiriad ar y ffurflen. Mae gan y ffurflen nodiadau helpu ar sut i'w lenwi.
Gallu di ffonio Canolfan Byd Gwaith ar 0345 608 8610 neu anfon testun ar 0800 023 4888 am ragor o wybodaeth.
Mae'r canllaw technegol llawn i fudd-daliadau mamolaeth yma.
Budd-daliadau mamolaeth eraill
Os nad oes gen ti hawl i Dâl Mamolaeth Statudol neu Lwfans Mamolaeth, mae'n bosibl y gallu di hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn lle.
Mae budd-daliadau eraill efallai y byddi di hefyd yn gallu hawlio tra ar gyfnod mamolaeth. Defnyddia cyfrifiannell budd-daliadau yr wyt yn ymddiried ynddi i weithio allan pa gymorth y gallu di gael oddi wrth:
Effaith Lwfans Mamolaeth ar fudd-daliadau eraill
Ni fydd Lwfans Mamolaeth yn effeithio ar dy gredydau treth. Fodd bynnag, ni allet hawlio Tâl Salwch Statudol, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Lwfans Ceisio Gwaith os ydwyt yn hawlio Lwfans Mamolaeth.
Bydd y maint o dreth Cyngor, Budd-dal Tai, Cymhorthdal Incwm, budd-daliadau profedigaeth a Lwfans Gofalwr a gei di hefyd yn cael ei effeithio os ydwyt yn hawlio Lwfans Mamolaeth.
Bydd y cap budd-dal newydd yn effeithio ar gyfanswm y swm o fudd-dal y gallu di gael o 'r budd-daliadau hyn.
Os ydwyt fel arfer yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, bydd yn dod i ben ar ddechrau'r 11eg wythnos cyn diwrnod geni'r baban, ac yna bydd dy daliadau Lwfans Mamolaeth yn dechrau.
Os ydwyt yn mynd yn sâl neu'n dal i fod yn sâl pan fydd dy Lwfans Mamolaeth yn dod i ben, gallu di hawlio Tâl Salwch Statudol neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, hyd yn oed os nad ydwyt wedi dychwelyd i'r gwaith.
Efallai y bydd dy Lwfans Mamolaeth yn cael ei gostwng neu ei stopio os ydwyt yn derbyn budd-dal nawdd cymdeithasol arall neu lwfans hyfforddi ee lwfans o dan y Cynllun Hyfforddi Ieuenctid.
Mae'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol wedi llunio'r canllaw syml, cyflawn hwn ynglŷn â pha fudd-daliadau'r gallu di hawlio pan fyddi di'n cael babi. Rydym yn argymell dy fod yn ei ddarllen.
Absenoldeb a Thâl Tadolaeth
Pan fyddi di'n cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith oherwydd bod dy bartner yn cael babi neu'n mabwysiadu plentyn efallai byddi di'n gymwys ar gyfer:
Mae'n bosibl na fydd y ddau ohonoch yn gallu cael absenoldeb ac arian.
Os ydy dy bartner wedi cael mwy nag un babi (e.e. efeilliaid) mae'r cyfnod o absenoldeb yr un peth.
Ni all Absenoldeb ddechrau cyn y geni a rhaid iddo ddod i ben o fewn 56 diwrnod o'r enedigaeth.
Mae'n rhaid i ti gymryd yr absenoldeb i gyd gyda'i gilydd. Mae 'wythnos' yr un cyfnod ag ydyw pan fyddi di'n gweithio wythnos arferol e.e. os wyt ti'n gweithio ar ddydd Llun a dydd Mawrth yn unig, yna mae wythnos yn ddau ddiwrnod.
Ni all dy gyflogwr roi llai o wyliau i ti na gofynion y gyfraith, ond efallai y bydd rhai cwmnïau yn rhoi mwy o wyliau i ti os ydyw yn dy gontract cyflogaeth.
Os ydwyt eisiau Absenoldeb Tadolaeth Arferol, mae'n rhaid i ti ddweud wrth dy gyflogwr o leiaf 15 wythnos cyn dyddiad disgwyl y babi:
Gweithia allan pryd i ddweud wrth dy gyflogwr dy fod di eisiau absenoldeb tadolaeth ar-lein.
Bydd dy gyflogwr yn gallu gofyn am hyn wedi'i ysgrifennu i lawr. Gallet ofyn am dâl tadolaeth ar yr un amser, os wyt ti'n defnyddio ffurflen SC3, neu fersiwn y cyflogwr ei hun.
Mae'r raddfa wythnosol statudol o Dâl Tadolaeth Gyffredin a Thâl Tadolaeth Ychwanegol yn £138.18, neu 90% o dy gyflog wythnosol cyffredinol (pa bynnag un yw'r isaf).
Mae'n cael ei dalu yn yr un ffordd â dy gyflog (e.e. yn fisol neu'n wythnosol). Bydd Treth ac Yswiriant Gwladol yn cael ei dynnu allan.
Os ydwyt eisiau Tâl Tadolaeth Cyffredinl, mae'n rhaid rhoi ffurflen SC3 i dy gyflogwr, neu fersiwn eu hunain (www.hmrc.gov.uk/forms/sc3.pdf) o leiaf 28 diwrnod cyn i ti fod angen i'r tâl gychwyn.
Os ydwyt eisiau Absenoldeb Tadolaeth Arferol a Tal Tadolaeth Ychwanegol, rho un o'r mathau yma o ffurflenni i dy gyflogwr fan hyn o leiaf 8 wythnos cyn yr ydwyt am ddechrau dy Absenoldeb Tadolaeth Arferol neu dderbyn Tal Tadolaeth Ychwanegol.
Mae'r rheolau a'r ffurflenni yn wahanol os wyt ti'n mabwysiadu.
I fod yn gymwys am absenoldeb tadolaeth arferol, rhaid i ti:
I fod yn gymwys ar gyfer Tâl Tadolaeth Gyffredin, rhaid i ti:
Mae'r rheolau i fod yn gymwys ar gyfer Tâl Tadolaeth Ychwanegol ac Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol yn debyg ond yn fanwl, gweler yma.
Os na allu di hawlio Tal Tadolaeth Arferol (Tal Tadolaeth Ychwanegol), mae'n rhaid i'th gyflogwr roi ffurflen OSPP1 (ASPP1) i ti - yn esbonio pam na allu di ei gael e - o fewn 28 diwrnod.