Gwybodaeth » Arian » Budd-daliadau » Cymhorthdal Incwm
Yn yr Adran Hon
Lwfans Ceisio Gwaith
Rhoddir hyn i bobl sy'n ddi-waith, ond yn gallu gweithio. Mae'n rhaid i ti fod dros 18 oed, ddim mewn addysg lawn-amser, ac yn gallu profi dy fod ar gael ac wrthi'n chwilio am waith.
I brofi dy fod di'n chwilio am waith, byddi di'n cael cyfarfodydd rheolaidd (fel arfer bob pythefnos) yn dy Ganolfan Byd Gwaith lleol. Gelwir hyn yn 'cofrestru'.
Mae Lwfans Ceisio Gwaith o leiaf £57.35 yr wythnos ac fel arfer yn cael ei dalu bob pythefnos. Byddet yn cael dy dalu i mewn i gyfrif e.e. cyfrif banc, felly gwna'n siŵr bod un gyda thi!
Mae 2 fath o Lwfans Ceisio Gwaith. I weld pa fath gallu di gael, gallet fynd at y Ganolfan Byd Gwaith neu roi cynnig ar y cyfrifiannell budd-daliadau.
Bydd cyfrifiannell budd-daliadau hefyd yn dweud wrthyt sut mae Lwfans Ceisio Gwaith yn effeithio ar dy fudd-daliadau eraill. Nodyn: Gall y Cap ar fudd-daliadau newydd [CLIC LINK] cyfyngu cyfanswm swm dy fudd-daliadau.
Lwfans Ceisio Gwaith (LCG) yn seiliedig ar gyfraniadau
Os ydwyt wedi talu digon o gyfraniadau (taliadau) Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 yn y 2 flynedd dreth ddiwethaf, gallet gael LCG yn seiliedig ar gyfraniadau.
Oherwydd nad yw hyn yn LCG yn seiliedig ar incwm, nid yw dy incwm na dy gynilion fel arfer yn effeithio ar faint y gallu di gael.
Fodd bynnag, gallu di ond hawlio LCG yn seiliedig ar gyfraniadau am 182 diwrnod, ac ar ôl hynny efallai gallu di hawlio Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm.
Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
Gallet derbyn Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm os nad ydwyt wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol a dy fod ar incwm isel.
Yn wahanol i LCG yn seiliedig ar gyfraniadau, gall dy incwm a'th gynilion effeithio ar faint y byddi di'n derbyn. Ni allu di gael LCG sy'n seiliedig ar incwm os oes gennyt gynilion llai na £16,000 ac yr ydwyt yn gweithio llai na 16 awr/wythnos ar gyfartaledd (neu nad yw dy bartner yn gweithio mwy na 24 awr yr wythnos).
Unwaith eto, defnyddia'r cyfrifiannell budd-daliadau i weithio allan faint o arian allu di dderbyn.
Pwy arall all wneud cais?
Fel rheol ni all pobl ifanc 16-17 oed hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, ac eithrio mewn achosion penodol. Bydd dy Ganolfan Byd Gwaith leol yn dweud wrthyt am y rhain.
Fel rheol ni all pobl ifanc 18-19 mlwydd oed hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, os ydynt mewn addysg lawn-amser nac os yw eu rhieni yn derbyn Budd-dal Plant ar eu cyfer.
Ni all myfyrwyr llawn amser fel arfer derbyn LCG tan i'w cwrs gorffen yn swyddogol - felly gwiria'r dyddiad gyda dy goleg neu brifysgol. Os oes gennyt blant, efallai y gallu di hawlio Lwfans Ceisio Gwaith yn ystod gwyliau'r haf.
Gallu di gael Lwfans Ceisio Gwaith wrth astudio rhan-amser os gallu di cyfuno dy gwrs gyda swydd, neu yn barod i roi'r gorau i dy gwrs am swydd.
Gei di mwy o wybodaeth fan hyn.
Sut ydw i'n gwneud cais?
Gallu di hawlio Lwfans Ceisio Gwaith ar-lein fan hyn neu dros y ffôn/testun, os na allu di wneud cais ar-lein:
Ganolfan Byd Gwaith
Ffôn: 0800 055 6688
Yr Iaith Gymraeg: 0800 012 1888
Ffôn testun: 0800 023 4888
Cosbau
Mae'n bosibl y caiff dy Lwfans Ceisio Gwaith ei hatal fel cosb os:
- nad ydwyt yn gwneud cais am unrhyw swyddi
- nad ydwyt yn mynd at y Ganolfan Byd Gwaith pan ofynnwyd i ti
- ydwyt yn troi swydd neu hyfforddiant i lawr
- nad ydwyt yn mynd i unrhyw hyfforddiant a drefnwyd i ti
- ydwyt yn gadael dy swydd neu hyfforddiant heb reswm da neu oherwydd dy ymddygiad
Adnabyddir hyn fel 'cosb' a gallai fod hyd at 3 blynedd, felly dylet osgoi hyn ar bob cyfrif!
Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y llyfrynnau Lwfans Ceisio Gwaith llawn a gynhyrchir gan y Llywodraeth.