Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pobl Yn Dy Fywyd » Cyfeillgarwch » Cyfeillgarwch Pan Yn 16-18 Oed



Cyfeillgarwch pan yn 17-18 oed

Bydd sawl cyfeillgarwch yn cychwyn yn yr ysgol, felly pan ddaw hi'n amser i symud ymlaen, gadael yr ysgol a chychwyn yn y brifysgol neu weithio, gall fod yn anodd cynnal cyfeillgarwch â rhai o dy ffrindiau.

Efallai byddi di neu dy ffrindiau yn symud i ffwrdd i fynd i’r brifysgol neu'n cychwyn gyrfa ac yn cwrdd â ffrindiau newydd.

Bydd cyfeillgarwch â rhai ffrindiau yn parhau tra byddi yn y brifysgol neu i ffwrdd trwy gadw mewn cysylltiad yn ystod y tymor a dros wyliau’r haf, ond efallai na fydd hynny'n digwydd bob tro. Nid oes angen teimlo'n euog am hyn ac mae’n eithaf cyffredin.

Weithiau, bydd pobl yn colli cysylltiad wrth iddynt ddilyn trywydd gwahanol, a bydd gennych lai yn gyffredin. Nid oes neb ar fai am hyn.

Weithiau, gall cyfeillgarwch â rhai ffrindiau ddechrau eto yn ddiweddarach yn dy fywyd, felly hyd yn oed os byddwch yn colli cysylltiad â’ch gilydd am ychydig flynyddoedd, nid yw'n golygu na all eich cyfeillgarwch ailgychwyn.

Byddi'n cwrdd â llawer o bobl yn y brifysgol neu yn dy swydd newydd, a gall llawer o'r bobl hyn ddod yn ffrindiau oes i ti.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50