Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pobl Yn Dy Fywyd » Cyfeillgarwch » Cyfeillgarwch Pan Yn 15-16 Oed



Cyfeillgarwch pan yn 15-16 oed

Dy ffrindiau ysgol yw rhai o’r bobl bwysicaf yn dy fywyd, ond weithiau, gall newidiadau mewn amgylchiadau effeithio ar dy gyfeillgarwch â hwy.

Arholiadau

  • Pan fyddi’n 15-16 oed, byddi’n astudio ac yn sefyll dy arholiadau. Gall hyn fod yn amser llawn straen a gall arholiadau olygu y byddi’n gweld dy ffrindiau yn llai aml
  • Mae dy arholiadau yn rhan bwysig o dy addysg a dy ddyfodol, ac fe wnaiff ffrind go iawn dy annog i wneud dy orau a bydd yn dal ar gael fel ffrind wedi i'r arholiadau orffen
  • Gall cyfnod arholiadau fod yn amser pryderus, ac os byddi’n teimlo'n bryderus neu’n ofidus, efallai gelli siarad â dy ffrindiau, a all ddeall y profiad y byddi'n ei wynebu. Efallai byddant hefyd yn dymuno siarad â thi am eu teimladau, felly bydda'n gefnogol a chofio fod ar gael iddynt os bydd arnynt dy angen.

Cariadon

  • Efallai byddi di a dy ffrindiau yn cychwyn canlyn, ac efallai gwnaiff hynny golygu gweld eich gilydd yn llai aml. Mae hyn yn hollol naturiol, ond ar brydiau, efallai byddi’n teimlo eu bod yn dy esgeuluso. Ceisia siarad â hwy ynghylch dy deimladau ac awgryma y gallwch dreulio ychydig o amser gyda’ch gilydd.
  • Os wyt yn canlyn, mae'n bwysig cofio bydd dy ffrindiau bob amser ar gael i ti, ond efallai na fydd hynny'n wir am dy gariad presennol, felly paid â cholli cysylltiad â dy ffrindiau
  • Os wyt ti a dy ffrind mewn perthynas, trefnwch i'ch cariadon gwrdd â’i gilydd a cheisiwch fynd allan fel grŵp.

Os wyt ti neu dy ffrindiau yn bryderus am unrhyw beth, siaradwch â’ch gilydd. Fe wnaiff ffrindiau go iawn dy dderbyn fel yr wyt.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50