Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pobl Yn Dy Fywyd » Cyfeillgarwch » Cyfeillgarwch Pan Yn 11-14 Oed



Cyfeillgarwch pan yn 11-14 oed

Mae ffrindiau yn rhan bwysig o dy fywyd, ac weithiau gall pethau ddigwydd a all newid dy gyfeillgarwch neu dy gynorthwyo i wneud ffrindiau newydd.

Newid ysgol

  • Mae symud o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd yn gyfnod cyffrous, ond gall fod yn anodd os byddi’n gorfod gadael ffrindiau neu’n ymuno â dosbarth gwahanol i dy ffrindiau am y tro cyntaf. Gall fod ychydig yn frawychus ar brydiau, felly siarad â dy ffrindiau os byddi’n bryderus neu os byddant hwy yn bryderus am rywbeth
  • Cofia, bydd ffrindiau go iawn yn para’n ffrindiau, hyd yn oed os nad ydynt gyda’i gilydd trwy'r amser neu os gwnânt ffrindiau newydd
  • Byddi’n dal i allu gweld dy ffrindiau ar ôl yr ysgol, ar benwythnosau, neu yn ystod amser egwyl yn yr ysgol
  • Pan fyddi’n newid ysgol, byddi’n cwrdd â llawer o bobl newydd ac efallai byddi’n gwneud nifer o ffrindiau newydd, ond mae’n bwysig peidio anghofio dy hen ffrindiau. Cyflwyna hwy i dy ffrindiau newydd
  • Os wyt yn meddwl fod gan ffrindiau broblemau yn yr ysgol, ceisiad siarad â hwy, a gofynna iddynt siarad â'u rhieni neu eu gwarcheidwaid neu athro y maent yn ymddiried ynddo.

Glaslencyndod

  • Pan fyddi rhwng 11 ac 14 oed, bydd newidiadau corfforol yn digwydd i dy gorff wrth i ti fynd trwy gyfnod glaslencyndod. Darllena'r adran GLASLENCYNDOD i gael manylion y newidiadau a chyngor
  • Gall glaslencyndod hefyd olygu dy fod yn cychwyn teimlo’n wahanol amdanat dy hun, ac weithiau gelli deimlo'n fwy emosiynol nag arfer. Mae hyn yn hollol arferol, ond efallai byddi'n dymuno siarad â rhywun am dy brofiad
  • Bydd dy ffrindiau'n cael profiad tebyg, felly ceisia siarad â hwy a chofia fod ar gael i dy ffrindiau os byddant hwy yn dymuno siarad â thi hefyd

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50