Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pobl Yn Dy Fywyd » Cyfeillgarwch » Cyfeillgarwch Pan Yn 19-25 Oed



Cyfeillgarwch pan yn 19-25 oed

Wrth i ti ddod yn hynach, gall dy gyfeillgarwch â rhai ffrindiau newid.

Efallai bydd rhai o dy ffrindiau mewn perthnasau tymor hir, yn byw gyda’u partner, yn bwriadu priodi neu gychwyn teulu.

Efallai byddant yn symud i dref, dinas neu wlad wahanol i weithio.

Efallai bydd ar dy ffrindiau angen cymorth sy'n wahanol i'r cymorth a gawsant gennyt yn y gorffennol, ac efallai bydd hi'n anoddach trefnu amser i'w dreulio gyda'ch gilydd.

Mae cadw mewn cysylltiad yn anodd iawn hyd yn oed os na allwch weld eich gilydd wyneb yn wyneb, a gelli ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, anfon neges testun neu eu ffonio i ddweud wrthynt dy fod yn dal ar gael iddynt fel ffrind.

Felly, bydd angen ffrindiau arnynt hyd yn oed os bydd pethau eraill yn digwydd yn eu bywyd, felly cofia fod ar gael iddynt. Efallai gwnaiff dy ffrindiau ofyn am dy gyngor wrth iddynt wynebu newidiadau mawr yn eu bywyd, megis cychwyn cyd-fyw â’u partner neu gael babi.

Gall fod yn anodd ceisio cynnal swydd amser llawn, perthynas a theulu a gweld dy ffrindiau hefyd, felly gallet geisio trefnu dyddiadau penodol i weld dy ffrindiau, megis noson allan reolaidd, gwneud rhywbeth rydych ill dau yn mwynhau neu ymweld â’ch gilydd.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50