Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Crefydd » Sikhiaeth



Sikhiaeth

Mae Sikhiaeth yn grefydd weddol ifanc. Sefydlwyd y grefydd yma yn y 15fed ganrif gan ŵr o’r enw Guru Nanak gyda thua 20 miliwn o Sikhiaid ledled y byd.

Fel Cristnogaeth ac Islam, mae'n grefydd unduwaidd, sy’n golygu bod Sikhiaid yn addoli un duw yn unig, sef Vahiguru.

Credoau

Mae Sikhiaid yn credu mai un duw sydd, ac nad oes ganddo ffurf na rhyw

  • Mae Sikhiaid yn credu bod Duw y tu mewn i bawb, ac felly bod pawb yn gallu newid, waeth beth maen nhw wedi’i wneud
  • Mae Sikhiaid yn dilyn dysgeidiaeth deg guru. Pobl real oedd y rhain a oedd yn byw ar adegau gwahanol rhwng y 15fed ganrif a’r 17eg ganrif. Daw’r gair Sikh o iaith hynafol Indiaidd Sanskrit, a’i ystyr yw disgybl neu fyfyriwr
  • Y peth pwysicaf mewn Sikhiaeth yw perthynas fewnol pob unigolyn â Duw. Nid yw Sikhiaid yn credu mewn defodau diangen nac ategolion crefyddol. Maen nhw’n credu y dylid delio â phroblemau yn y byd go iawn
  • I Sikhiaid, mae cyflawni gweithredoedd da yn dy fywyd cyffredin yn ffordd o ddod yn nes at Dduw. Nid oes ganddyn nhw fynachod na meudwyaid sy’n byw i ffwrdd oddi wrth y gymdeithas ac yn neilltuo’u hunain i Dduw
  • Un ffordd y mae Sikhiaid yn addoli Duw yw trwy wneud troeon da â phobl eraill a cheisio helpu’r gymuned gyfan. Mae’r gymuned yn bwysig iawn i Sikhiaid, ac mae byw’n gyfrifol oddi mewn iddi yn ffurfio un o brif rannau eu credoau

Y Khalsa

Mae'r gymuned Sikhaidd yn cael ei adnabod fel y Khalsa, ac mae pob dyn a dynes Sikhaidd yn aelod o’r gymuned hon.

  • Mae Sikhiaid yn dathlu merthyron (martyrs) ac athrawon a oedd yn aelodau o’r Khalsa
  • Mae pob dyn a dynes Sikhaidd yn perthyn i'r Khalsa, y corff o Sikhiaid sy'n arfer eu crefydd
  • Mae athrawiaeth Sikhaidd yn dweud os oes gan y gymuned broblem na chyfeirir tuag ato yn y llyfrau sanctaidd, yna dylai penderfyniad gael ei wneud gan y mwyafrif o'r Khalsa

Wedi iddyn nhw gael eu derbyn i’r Khalsa, mae gofyn i Sikhiaid wisgo pum symbol o’u ffydd bob amser. Sef:

  • Kesh (gwallt heb ei dorri) i ddangos ufudd-dod i Dduw
  • Kara (breichled ddur trwm) i ddangos nad oes gan Dduw ddechrau na diwedd, ac i atgoffa Sikhiaid o’u dyletswyddau bob amser
  • Kanga (crib bren) i gribo’u gwallt a’u meddyliau amhur
  • Kaccha (dillad isaf cotwm) neu Kachh, Kachera i roi sillafiadau eraill arno - yn debyg i ddillad isaf milwr, i atgoffa Sikhiaid o’u cefndir rhyfelgar
  • Kirpan (cleddyf bychan seremonïol), fel yn achos y Kaccha, ac i ddangos bod yn rhaid i Sikhiaid amddiffyn y rhai gwan a’r rhai sy’n agored i niwed

Fel crefyddau eraill sy’n cael eu harfer yn India, mae Sikhiaid yn credu mewn cylch bywyd, marwolaeth ac ailenedigaeth.

Nid yw Sikhiaid yn credu bod crefyddau eraill yn anghywir, ond yn hytrach, maen nhw’n credu y gall pob crefydd gynnig ffordd o ddarganfod Duw.

Arferion

  • Nid oes offeiriaid na chlerigwyr Sikhaidd, fel sydd mewn crefyddau eraill. Gall unrhyw ddyn neu ddynes arwain yr addoli, cyn belled â’u bod yn medru gwneud hynny
  • Mae dynion Sikhaidd yn credu na ddylid torri gwallt, ac mae llawer ohonyn nhw’n gwisgo twrban i amddiffyn eu gwallt hir 
Mae cydraddoldeb yn y gymdeithas a rhwng dynion a merched yn bwysig iawn i Sikhiaid. Maen nhw’n credu bod Duw wedi gwneud pawb yn gyfartal, waeth beth fo’u dosbarth, eu rhyw neu eu hil
  • Mae Diwali, sef gŵyl y goleuni, yn ŵyl bwysig i Sikhiaid. Mae’r rheiny sy’n ymarfer Hindŵaeth hefyd yn dathlu’r ŵyl yma - gweler yr adran ar Hindŵaeth [link to 3j6 Hinduism in Welsh] am fwy o wybodaeth

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50