Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Crefydd » Islam
Yn yr Adran Hon
Islam
Crefydd yw Islam sy’n seiliedig ar ddysgeidiaeth y proffwyd Muhammad (bydded heddwch arno), sef y proffwyd yr anfonodd Allah i’r ddaear. Mae 'bydded heddwch arno' yn cael ei ddweud bob tro mae enw Muhammad yn cael ei grybwyll, fel arwydd o barch.
Mae dilynwyr Islam yn cael eu hadnabod fel Mwslemiaid. Mae yna ddau brif grŵp o Fwslemiaid. Swnnïaid yw tua 90% o Fwslemiaid, a Shïaid yw’r gweddill.
Mae yna tua 1.54 miliwn o Fwslemiaid yng Nghymru a Lloegr, gyda thua 46,000 ohonynt yn byw yng Nghymru. Islam yw’r grefydd fwyaf yng Nghymru, heblaw am Gristnogaeth, gyda thua 40 o fosgiau, yn dilyn y mosg cynaf gafodd ei sefydlu yng Nghaerdydd yn 1860.
Credoau
Muhammad (bydded heddwch arno) oedd y proffwyd pwysicaf yr anfonodd Allah, ond mae Ibrahim (Abraham) ac Isa (Iesu) ymysg rhai eraill. Mae Mwslemiaid yn credu bod y llyfr sanctaidd, y Qur'an, wedi cael ei arddweud yn uniongyrchol i Fuhammad (bydded heddwch arno) gan Allah.
Mae Pum Piler Islam yn rhan bwysig o fywyd Mwslemiaid. Rhaid i bob Mwslim fyw ei fywyd yn ôl y pum rheol yma, sef:
- Shahadah: datganiad o ffydd y mae’n rhaid i bob Mwslim ei wneud er mwyn bod yn wir ddilynwr Islam - "Allah yw’r unig Dduw, a Muhammad (bydded heddwch arno) yw ei gennad"
- Salat: gweddïo pum gwaith y dydd
- Sawm: ymwrthod yn ystod oriau’r dydd yn ystod Ramadan
- Zakah: rhoi arian i’r tlawd
- Hajj: pererindod i Mecca
Mae Pum Piler Islam yn golygu bod Mwslemiaid yn gallu byw yn ôl dysgeidiaeth Islamaidd yn eu bywydau bob dydd.
- Mis o ymprydio yw Ramadan, ac mae’n digwydd yn nawfed mis lleuad calendr y Mwslemiaid. Dyma pam ei fod yn newid rhyw ychydig pob blwyddyn ar ein calendr ni
- Yn ystod yr amser yma, ni fydd Mwslemiaid yn ymbleseru yn unrhyw beth, ac ni fyddan nhw’n bwyta nac yn yfed o gwbl yn ystod oriau’r dydd
- Nid yw Mwslemiaid yn credu mewn ailymgnawdoli, ac maen nhw’n credu bod Allah yn barnu pawb ar ôl iddyn nhw farw
- Bydd y rheiny sydd wedi dilyn dysgeidiaeth y proffwyd Muhammad (bydded heddwch arno) yn byw ym mharadwys, a bydd y gweddill yn mynd i uffern
Arferion
- Dydd Gwener yw diwrnod sanctaidd Islam, a chynhelir y gwasanaeth pwysicaf am 12 o’r gloch hanner dydd. Rhaid i Fwslemiaid weddïo bum gwaith y dydd, yn cael galwad i weddïo o dŵr o’r enw minarét
- Os na all Mwslemiaid gyrraedd mosg, gallan nhw weddïo yn unrhyw le. Ble bynnag y byddan nhw, pan fydd Mwslemiaid yn gweddïo, rhaid iddyn nhw wynebu Mecca, a rhaid iddyn nhw ddilyn defod ymolchi cyn gweddïo
- Mosg yw’r enw ar fan addoli Mwslimaidd, ac imam yw’r enw ar athro Islam
- Treth ar gynilion pob Mwslim yw zakah, sy’n eu hatgoffa mai eiddo Allah yw eu holl arian yn y pen draw. Mae yna reolau llym iawn ynglŷn â sut caiff arian a gesglir o zakah ei wario
- Nid yw Mwslemiaid yn credu mewn cymryd unrhyw fath o gyffuriau, ar wahân i feddyginiaeth. Mae hyn yn cynnwys alcohol, ac os wyt ti’n ymweld â gwlad Fwslimaidd, dylet ti fod yn ymwybodol y gall fod yn anghyfreithlon yfed alcohol
- Dysgodd Muhammad (bydded heddwch arno) fod dynion a merched yn gyfartal yng ngolwg Allah, ond bod gan ddynion a merched rolau gwahanol iawn yn y gymdeithas Islamaidd. Ystyrir mai gwarchodwyr merched yw dynion
- Yn gyffredinol, mae merched Mwslimaidd yn gorchuddio’u gwallt. Mae’r hyn y maen nhw’n ei wisgo’n amrywio o sgarff pen bychan i burkha llawn, sy’n gorchuddio merched o’u corun i’w sawdl gan adael grid bychan yn unig er mwyn iddyn nhw allu gweld. Dywed Mwslemiaid bod merched yn cael eu grymuso gan nad oes pwysau arnyn nhw i ddangos sut olwg corfforol sydd arnyn nhw, ond mae rhai pobl yn credu bod hyn yn ormesol i ferched
- Hefyd yn ôl Muhammad (bydded heddwch arno) mae pawb yn blant i Allah, beth bynnag yw eu hil, cyn belled â’u bod yn dilyn dysgeidiaeth Islam