Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Crefydd » Bwdhaeth
Yn yr Adran Hon
Bwdhaeth
Mae Bwdhaeth yn grefydd ysbrydol iawn sy’n canolbwyntio ar gyrraedd dealltwriaeth ysbrydol bersonol dwfn - goleuedigaeth neu Nirvana yw’r enw ar hyn - yn hytrach na’r berthynas rhwng pobl a Duw.
Mae hyn yn gwneud Bwdhaeth yn hollol wahanol i lawer o’r prif grefyddau. Mewn Bwdhaeth, nid oes ymdeimlad o dduw fel gwaredwr, nac o nefoedd ac uffern yn ôl y ddealltwriaeth gyffredinol ohonyn nhw.
Cyflwr o wir oleuedigaeth yw Nirvana, ac mae Bwdhyddion yn credu bod modd ei gyrraedd trwy fyfyrdod (meditation). Nid yw’r un peth â nefoedd, ond yn cyfeirio at ddiwedd yr ymdrech ddaearol i fodoli.
Mae amryw o brif ffurfiau ar Fwdhaeth, sef:
- Theravada - y brif ffurf ar Fwdhaeth yn Ne-ddwyrain Asia, Sri Lanka, Myanmar ac India
- Mahayana - yn y rhan fwyaf o Tsieina, Japan, Korea a Fietnam
- Vajrayana - yn cael ei arfer yn Nhibet ac ardal amgylchynol India, Mongolia, Nepal a Tsieina
Credoau
Gŵr o’r enw Siddhartha Gautama oedd Bwdha oedd yn byw tua’r flwyddyn 850 CC yn y wlad o’r enw Nepal heddiw.
- Roedd yn dywysog cyfoethog, ac roedd yn byw bywyd cysgodol iawn
- Pan aeth i’r byd go iawn am y tro cyntaf, cafodd brofiad o ddioddefaint a marwolaeth, a phenderfynodd adael ei gartref i geisio ffordd well o fyw
- Yn y pen draw, cyrhaeddodd Oleuedigaeth, a’i daith i’r cyflwr hwnnw sy’n llunio syniadau sylfaenol Bwdhaeth
Y Pedwar Gwirionedd Mawrfrydig sy’n llunio dysgeidiaeth sylfaenol Bwdhaeth, sef:
- Mae bywyd yn golygu dioddefaint
- Mae ymlynu at bethau materol yn achosi dioddefaint
- Mae’n bosib dod â dioddefaint i ben
- Y Llwybr Wythblyg yw’r ffordd i ddod â dioddefaint i ben
Mae Bwdhyddion yn ceisio byw yn ôl y Llwybr Wythblyg at Oleuedigaeth, sef:
- Safbwynt Cyfiawn
- Bwriad Cyfiawn
- Iaith Gyfiawn
- Bywoliaeth Gyfiawn
- Ymdrech Gyfiawn
- Gofal Cyfiawn
- Myfyrio Cyfiawn
Mae Bwdhyddion yn credu mewn ailymgnawdoli (reincarnation), ac y gall pob bywyd newydd fod yn gam tuag at oleuedigaeth.
Karma yw’r syniad y gall canlyniadau gweithredoedd da mewn un bywyd olygu ailenedigaeth yn nes at Oleuedigaeth yn y bywyd nesaf.
Mae chwe theyrnas neu ardal y gallet ti gael dy aileni iddyn nhw. Ystyrir mai’r deyrnas ddynol yw’r cyflwr gorau o’r rhain, oherwydd fel person, gallet ti ddilyn y llwybr i Nirvana. Dyma’r cyflyrau:
- Y tri chyflwr ffodus - teyrnas duwiau, teyrnas is-dduwiau, teyrnas ddynol
- Y tri chyflwr anffodus - teyrnas anifeiliaid, teyrnas ysbrydion, teyrnas uffern
Arferion
- Prif ddull Bwdhyddion o addoli yw dwysbarchu’r Bwdha. Gallan nhw fyfyrio o flaen darlun neu gerflun o’r Bwdha, neu gynnig offrymau. Mae gan lawer o Fwdhyddion gysegrfeydd yn eu cartrefi gydag arogldarth a chanhwyllau lle maen nhw’n addoli
- Nid yw Bwdhyddion yn credu mewn cael gormod o eiddo materol. Dim ond ychydig iawn o eiddo sydd gan fynachod Bwdhaidd. Fodd bynnag, dywedodd Bwdha ei hun na ddylai pobl fyw heb eiddo materol, ond yn hytrach dylen nhw gael cydbwysedd rhwng moethusrwydd a thlodi
- Yn wahanol i rai crefyddau, nid yw Bwdhaeth yn galw ar ei dilynwyr i ddilyn rheolau addoli llym. Yn hytrach, mae’n annog pobl i brofi ei dysgeidiaeth trwy brofiad personol. Mae hefyd yn goddef crefyddau eraill
- Mae Bwdhyddion yn credu bod pob bywyd wedi’i gysylltu, felly nid yw’n iawn niweidio unrhyw beth byw, waeth pa mor fach ydyw. Mae llawer o Fwdhyddion yn llysieuwyr
- Mae gwyliau yn rhan fawr o fywyd Bwdhaidd. Y pwysicaf yw Wesak, sy’n dathlu pen-blwydd Bwdha. Mae Bwdhyddion yn addurno’u tai â lliwiau llon a modelau o anifeiliaid ac adar. Cynigir anrhegion i Bwdha fel arwydd o ddiolch am ei ddysgeidiaeth